Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystumiau

ystumiau

O'i safle saff yn un gornel o'r stafell fe wnaeth ystumiau a oedd yn groes rhwng stumiau babŵn gwyllt a dawns y blodau.

Yn y fath sefyllfa roedd Joni a Sandra fel dau o bethau gwirion, yn neidio ac yn prancio, yn chwifio'u breichiau ac yn gwneud ystumiau o bob math.

Oherwydd nid digon astudio arddull ac ystumiau a llais areithydd.

Cyfyd holl ystumiau cymeriadau Meini Gwagedd, eu dicter, eu chwerwder, eu hachwyn di-ben-draw, yn sgil eu hanfodlonrwydd i dderbyn y ffaith mai hwy sydd yn creu eu hamgylchiadau.

Y mae hefyd yn troelli o un ochr i'r llall ar draws y gorlifdir, yn symudiadau mawr troellog a elwir yn ystumiau.