Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystyriaethau

ystyriaethau

Darganfuwyd hefyd fod ystyriaethau gwleidyddol a diwylliannol, megis hen ffiniau gwleidyddol, yn cael eu hadlewyrchu yn llwybr yr isoglosau (y llinellau a osodir ar fap i nodi ffiniau ymestyniad daearyddol y ffurfiau dan sylw), a bod rhaniadau tafodieithol yn gallu adlewyrchu rhaniadau pell yn ôl.

Rhoddai ystyriaethau o'r fath ysgogiad i'r teulu hwn ac eraill cyffelyb iddo i ledu eu gorwelion cymdeithasol ac ennill cryn awdurdod iddynt eu hunain yng ngogledd Cymru.

Mae yna ystyriaethau eraill heblaw graddio patrymau bid siŵr.

Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.

Ond roedd hyfforddwr Abertawe a hyfforddwr Caerffili, Gareth Nicholas, yn llygad eu lle yn eu hymateb i gwynion personol ynglyn âr ystyriaethau corfforol.

Mewn ymateb i sylwadau cynrychiolydd Cyngor Llanbedrog, a deimlai nad oedd swyddogion yn gwrando ar eu sylwadau eglurodd bod swyddogion yn gwrando ond mai pwyllgor sydd yn penderfynu drwy roddi sylw i'r holl ystyriaethau mewn unrhyw achos.

* Ystyriaethau moesegol

Wrth gytuno ag ef, gosododd y Pwyllgor y ddadl hyd yn oed yn fwy cignoeth, gan apelio at ystyriaethau doethineb hirben ac o fuddioldeb yn ogystal â moesoldeb:

Ond mewn cyfrwng newyddion, ni thâl ystyriaethau felly.

Y mae nifer helaeth o ystyriaethau i'w trafod, ac nid oes amser i'w trafod i gyd yn y papur yma.

Nid yw'r wybodaeth gennym i gynnig ffigurau manwl ar gyfer yr ystyriaethau ychwanegol hyn.

Cafodd y math o ateb annelwig y byddai rhywun yn ei ddisgwyl - y rhoddir ystyriaethau i adnoddau cynhenid cyfoethog Cymru fel pren a llechen ond bod yn ofynnol, wrth gwrs, sicrhau fod y gwariant yn rhesymol ac ati.

Cyfaddefant eu bod wedi ymgolli yn nhryblith ystyriaethau beunyddiol, bydol, yn llwyr, ac eto mynegant ddealltwriaeth o'r ffordd y mae'r elfen ysbrydol yn ein profiad yn ymdreiddio trwy bopeth.

Ni ddaeth un o'r ystyriaethau hyn i feddwl trefol JR Jeremeia Hughes.

Amcan gweddill y papur hwn yw ystyried yn fwy manwl, yn nghyd- destun gwasanaethau addysgol, pa unigolion a sefydliadau sy'n cyflawni gwaith o natur cyhoeddus a pha ystyriaethau ddylai lywio ffurf a chynnwys y cynlluniau iaith a ddarperir ganddynt.

Er mor anhyglod yw ystyriaethau fel gramadeg a chystrawen erbyn hyn 'ymysg rhai dynion,' chwedl Morgan Llwyd, y gwir yw fod pob llyfr o bwys yn ofalus iawn ei fod yn gywir ei iaith hefyd.

Yn y tabl isod nodir gwybodaeth am yr ystyriaethau ychwanegol hyn.

Fe bery'n destun pryder bod nifer o awdurdodau wrth ystyried ceisiadau cynllunio yn mynnu anwybyddu ystyriaethau cynllunio megis y Cynllun Strwythur.

A'r olaf o'r ystyriaethau ydyw'r lleihad parhaol ym maint ein diwydiannau cynhyrchu nwyddau gorffenedig - hynny yw, ein sylfaen diwydiannol.

Rhesymau addysgol a roddodd y Pwyllgor am ei fwriad i gau'r ysgol a nododd yn ei ddatganiad nad ystyriaethau ariannol a barodd iddo wneud y penderfyniad.

Rhaid imi gydnabod nad yr ystyriaethau hyn a lanwai fy meddwl pan fu farw Abel Hughes.

Gwaith llafar yn y sefyllfa ddwyieithog - ystyriaethau ynglyn a chywair iaith.

Creu sefyllfaoedd o fewn ysgol/adran, cynnig syniadau a fyddo'n ysgogi athrawon i dreialu dulliau ac ystyriaethau newydd ac a allai arwain at yr athro fel ymchwilydd, felly, yw un o nodau'r Pecyn.

* Ystyriaethau diwylliannol

Nid yw'r meddwl anianol yn agored i ystyriaethau a chymhellion sy'n deillio o'r ffydd Gristnogol.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.