Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystyriai

ystyriai

Serch hynny, ychydig a boenai'r lleidr profiadol o Lundain am dreulio cyfnod o gaethiwed yn Awstralia, ond ystyriai'r gweision fferm yr alltudiaeth gyda'r ansicrwydd eithaf.

Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.

Prin yr ystyriai, er hynny, mai 'i alwedigaeth ef oedd ysgrifennu cyfrolau ar egwyddorion cenedlaetholdeb.

Siomedig oedd ymateb Ysgrifennydd y Cynulliad i'n argymhellion (ystyriai arweiniad o'r canol fel ymyrraeth ym musnes yr awdurdod addysg lleol) er y cawsom addewid y byddai'n eu trafod gyda swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd ag addewid o gyfarfodydd pellach yn y dyfodol.

Y mae'r stori am ei wraig yn dinistrio llawysgrif yr hyn a ystyriai hi yn stori hyll Dr Jekyll gan ei orfodi ef yn ei salwch i'w hail-sgrifennu i gyd, yn stori ynddii hun.

Os dewisodd yr awdur roi lle Pendaran Dyfed i Bwyll, fe all fod y rheswm i'w gael yn ystyr yr enw, sef 'barn, synnwyr, ystyriaeth, dianwadalwch', ansoddau a ystyriai'n anhepgor i lywodraethwr.

Hen eiriau yn dda i ddim, fely yr ystyriai wrth sefyllian yn ddiamcan o'i flaen.

Awgrymodd Glyn Jones iddo droi i'r Saesneg fel adwaith yn erbyn crefydd; mae'n bosib bod y newid iaith hefyd yn ymgais i'w uniaethu ei hun a'r hyn a ystyriai ef yn symudiadau mawr y meddwl dynol, i ennill troedle ar lethrau niwlog arucheledd:

Williams a drosodd The National Being i'r Gymraeg ("Y Bod Cenhedlig"), canys yr oedd ychydig egwyddorion elfennol, eglur yn ddigon iddo ef, a ystyriai weithredu gwleidyddol yn ddyletswydd flaenaf.

'Ni chawsom ni fel plant ond y nesaf peth i ddim o addysg', meddai Daniel Owen, 'ystyriai fy mam fod cael bwyd a dillad i ni yn llawer mwy nag a allai hi ei fforddio.

Os canolbwyntiwn ar y wlad a ystyriai ef y bwysicaf o wledydd Ewrop, sef Ffrainc, gwelwn fod Ffrancoffiliaeth Saunders Lewis, lawn cymaint â'i Ewropeaeth, yn cyrmwys rhagfarnau daearyddol ac ideolegol.

Hyd yn oed cyn ysgrifennu'r un o efengylau'r Testament Newydd yr oedd y tueddiad wedi ymwreiddio ymhlith y Cristnogion hynny a ystyriai Rufain yn hytrach na Jerwsalem yn ganolfan y byd.

Serch hynny ystyriai mai'r Cyngor ddylai geisio datrys y sefyllfa yn hytrach na gweithrediad personol ganddo ef.

Ystyriai'r ffermwyr bod yna ddigon o dyfiant porfa bellach a gyrrwyd y defaid a'r wyn i'r mynydd.

ystyriai'r gweithgor fod pob haen wedi'i'i'n ofalus yn unol â gofynion gwahaniaethol y lefelau.