Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystyriwn

ystyriwn

Ystyriwn mai gwaith o natur cyhoeddus a wneir gan asiantau fydd yn ceisio am gomisiwn i roi gwasanaethau cymorth i ysgolion a cholegau unigol, megis hyfforddiant-mewn-swydd, ymgynghori neu arolygu (dan gomisiwn i SPAEM, i'r Cynghorau Cyllido neu i awdurdod lleol), gan fod y fath wasanaethau wedi'u cynnig hyd yn ddiweddar gan gyrff cyhoeddus, awdurdodau addysg lleol yn enwedig ac, yn achos arolygu ysgolion a cholegau, AEM a oedd yn atebol i'r Goron.

Ystyriwn yn gyntaf agwedd y dychweledigion at eu llenorion.

Ystyriwn ei ganllawiau yn fympwyon hen ddyn, ac eto fe fu+m i'n ofalus iawn fy hunan - teithio gyda'r trên araf i Frankfurt, a dim ond wedyn, yn Frankfurt, codi tocyn awyren i Efrog Newydd, gan nodi a oedd unrhyw un a oedd yn y trên gyda fi yn codi'r un tocyn.

Cyfarwyddwn y senedd hefyd i ystyried yn flynyddol gynnig unrhyw ddiwygiadau trefniadaeth gan yr ystyriwn fod datblygiadau o'r fath yn arwyddion o gymdeithas fywiog sy'n ymateb i sefyllfaoedd newydd yn hytrach nac yn adlewyrchiadau o broblemau yn y drefn flaenorol.

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

A Saesneg oedd iaith popeth a ystyriwn yn werthfawr mewn bywyd, yn enwedig fy llyfrau, ac yr oeddwn erbyn hyn wedi tyfu'n dipyn o lyfrbryf Ac wedi dechrau sgrifennu hefyd .

Fel ysgolhaig ni allai beidio â theimlo oddi wrth yr her i esbonio eu natur eithriadol, a phan ystyriwn ei gefndir meddyliol ef a'i gyfnod, nid syn ydyw ei gael yn taro ar yr esboniad arbennig a gynigiodd.

Er enghraifft, ystyriwn y soned 'Dychwelyd' a nodais eisoes.

Ystyriwn eto agwedd Llywodraeth Whitehall tuag at y Gymraeg heddiw ac wedyn agwedd pobl yng Nghymru.