Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystyrlon

ystyrlon

Yn ôl yr egwyddor hon, y mae'n ystyrlon i drin nwyddau traul (a hefyd, o ran hynny, nwyddau cyfalaf) fel cyfanred, os oes modd egluro'r galw cyfanredol am y nwyddau hyn heb ystyried na'r ffactorau sy'n pennu'r galw am nwyddau unigol nac ychwaith gymhellion treulwyr fel unigolion.

Nid wyf am anghytuno ag ef, gan nad yw'r cwestiwn a ydyw casgliad o weithiau'n ffurfio llenyddiaeth neu beidio yn un ystyrlon i mi.

Wna-i ddim ar hyn o bryd geisio esbonio sut y mae'r gyfundrefn arbennig hon yn sefyll ychydig ar wahân i'r rhannau ymadrodd eraill, heblaw crybwyll nad yw mor gysylltiol gystrawennol â'r lleill (fel arddodiaid a chysyllteiriau) ac mai hon yn anad dim sy'n cynnwys y deunydd ystyrlon mwyaf 'diriaethol' ymhlith geiriau.

Felly mae'n ofynnol i addysg Gymraeg ymateb yn ystyrlon a brwdfrydig i'r dimensiwn galwedigaethol hwn.

Ond yr hanfod yw dolennu cyfres o wersi yn ôl datblygiad ystyrlon gofalus gan ymgysylltu â'r canol neu â datblygiad o'r canol.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i bawb sy'n anabl fod a gwybodaeth arbenigol o fewn eu cyrraedd er mwyn iddynt gymryd rhan ystyrlon mewn cynllunio'u bywydau a'r gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi.

Gwyddai awdur Gereint ac Enid rywbeth am y ffordd hon o blethu hanesion a'u hystofi'n gyfrodedd gymhleth ac fe'i defnyddiodd yn effeithiol ac yn hollol ymwybodol, er heb holl gywreinrwydd ystyrlon rhamantau'r drydedd ganrif ar ddeg.

Ni allaf beidio a chredu fod y ffordd y mae Waldo'n defnyddio'r gair 'awen' yn arwyddocaol ac yn ystyrlon.

Cymerer y gyntaf o'r wyth soned hyfryd hyn, a sylwer, nid yn unig ar brudd-der y thema fel sy'n arfer, eithr ar y seiniau ystyrlon sy'n corffori'r teimladau hyn: Barddonais yn y cyfnos, O!

Disgwyliwn i'r Cynulliad fod yn atebol i gymunedau Cymru gan gryfhau grym ein cymunedau i fod yn gymunedau rhydd gan felly fod yn hollol agored yn ei holl weithredoedd a datblygu perthynas ystyrlon rhwng haenau llywodraethol Cymru.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

I'w gweld yn llythrennol bob awr o'r dydd ar nos rhoddant yr argraff eu bod yn trafod yn ystyrlon y pynciau rhyfeddaf dan haul.

Yn ein barn ni, mi fyddai hyn yn ffordd mwy ystyrlon o geisio magu ymdeimlad o berthyn i'r Cynulliad ar hyd ac ar led Cymru.

O ran gosod targedau, mae'n anodd gwneud hynny'n ystyrlon ar gyfer tair o'r pedair prif her.

Bydd y deg rhaglen, trwy gyfrwng llyfr o'r gornel ddarllen yn dysgu plant blynyddoedd cynnar sut i ffurfio deg llythyren o fewn cyd-destunau ystyrlon.

Ond mae mor hawdd siarad, clymu stribed o eiriau ystyrlon at ei gilydd heb ddweud dim byd sy'n golygu dim yn y diwedd.

Fel yr awgrymwyd eisoes fe fyddai ei gwrs diwinyddol yng Nghaergrawnt wedi gwneud Morgan yn bur hyddysg yn hanes y cyfieithu ysgrythurol a amlinellwyd uchod, ac fe roddai'r ddysg hon iddo safon i allu cloriannu'n ystyrlon yr hyn oedd eisoes wedi ei gyflawni mewn perthynas â chael yr Ysgrythurau yn Gymraeg.

Mae yna dair elfen greiddiol, a'r drefn sydd gennyf mewn golwg yw trefn eu perthynas ystyrlon neu eu dibyniaeth.

Ond, wedi dweud hynny, 'does yna'r un dehongliad arall sy'n ystyrlon, chwaith, ar lawer o'r rhain.