Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysu

ysu

Gorweddai yn ei gwely bach pren mewn twll yng nghlawdd y cae haidd yn troi a throsi, yn ysu am weld golau dydd.

Wrth syllu draw dros yr harbwr tua'r môr, teimlai yn ei gwaed mai yn y pellter glas yr oedd ei rhieni'n ei haros a hithau'n methu â mynd atynt, yn cael ei chadw fel gwylan gloff mewn honglad o hen dŷ ar astell y graig a hithau yn ysu am fynd ond yn methu â chodi ar ei haden, yn cael ei chlymu wrth ei thaid a'i nain am iddynt ei magu.

Mae'r pedwar yn ysu am gael siarad a chi." Y peth cyntaf a of ynnodd Owain i'r arolygydd oedd a oeddynt wedi dod o hyd i Twm Dafis.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

Cwilt pobol ddiog yw'r cwilt erbyn hyn a'r clytiau o las Gwanwyn a melyn Haf ac aur Hydref wedi mynd yn fawr ac yn ychydig, a'r tractorau a'u gwehyddion a'u casglwyr silwair a'u combeiniau yn llusgo hyd yr erwau agored fel chwilod mawr, boliog yn ysu'r cnydau.

Oddeutu'r pum cant, fwy neu lai, sydd yn cystadlu yn Adran Llên y Genedlaethol bob blwyddyn, er bod pum mil a mwy ar b'nawn Iau yn ysu am roi 'u llinyn mesur ar 'u tipyn ymdrechion nhw hefyd.

Roeddem yn ysu am gael gwybod beth oedd wedi digwydd rhyngdi â'i chwaer, ac yn cydymdeimlo'n fawr â hi wrth iddi geisio denu Meic a'i hysfa am i ddyn ei charu ar ôl ei hysgariad o briodas oedd fel "bwyta wrth fwrdd heb le i ddwy benelin".

Jeans a'r hen gotia peilot yna, fel tasan nhw'n ysu am ryfel" "Fedrach chi ddim deud wrth y llais?" Roedd yn bwysig ei bod yn cael gwybod.

Wrth iddynt symud, caent eu gwylio o'r castell gan y gwylwyr ar y tyrau o boptu'r porth, pob un yn ysu am gael ymosod.

Ond yn yr ardaloedd gweithfaol newydd, roedd y cyflogwyr yn ysu am wneud ffortiynau, yn barod i dalu cyflogau uchel, ac eto'n edrych ar eu gweithlu fel bwystfilod, yn methu cynnig iddynt amodau cymdeithasol teilwng i fyw.

Er bod Kampuchea yn ysu am sylw, roedd popeth yn gorfod cael ei drefnu drwy Fiet Nam.

A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.

Prifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd startslyd wedi bod yn fy 'sgidiau i, ag anffyddiaeth yn f'ysu ac anghrediniaeth yn fy llethu!

Roedd fel petai'n ysu am neidio arnyn nhw a'u llethu.

Anesmwythodd y Cripil yn ei freichiau am fod gwres y tân yn ysu ei gnawd.

Wythnos pan mae'r asiantwyr yn crynhoi yn ysu i arwyddo nid yn unig enillydd y brif wobr a'r wobr Lieder ond pob un sy'n ymddangos ar y llwyfan ar y noson olaf.

Gyda dwy noson i fynd mae'r gystadleuaeth eisoes yn gwneud i ni ysu am nos Sadwrn.

Os oedd yn well gan Mr Reagan ddianc rhag y wasg, byddai arweinydd y Cremlin yn ysu i'n cyfarfod ni wyneb yn wyneb.

'Roedd Fiona'n ysu i gael gwybod pwy oedd tad y babi ond gwrthododd Lisa ddweud.