Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysweiniaid

ysweiniaid

Cymharodd yr Esgob Lewys Bayly o Fangor (a fuasai ar un cyfnod yn hen elyn i Wynn) deulu Gwedir i farch na wyddai ei nerth ei hun; cydnabuwyd mai gair Syr John oedd yr uchaf a'r parchusaf ymhlith ei gyd-ysweiniaid ar y fainc yng Nghaernarfon; a rhydd ef ei hun yr argraff yn gyson yn ei ohebiaeth iddo dderbyn addysg a disgyblaeth fonheddig a chwrtais.

Un agwedd y tueddir i'w anwybyddu yw'r rhan a gymerodd ysweiniaid Gwedir ym myd diwylliant yn gyffredinol.

Ni ellir dibrisio 'lleoliaeth' a'r syniad o berthyn yn glos iawn i ardal neu gymdogaeth ymysg ysweiniaid y ddwy ganrif hynny.

Trwy'r cymdeithasu mynych a fu rhwng aelodau o'r teulu a'u cyd-ysweiniaid Cymreig ac â'r uchelwyr Seisnig, un ai yng Ngwedir neu yn Llwydlo neu yn Llundain, adlewyrchir yn barhaol yr ymdrech uchelgeisiol honno i gyfleu rhyw naws neu statws cymdeithasol arbennig.