Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ywen

ywen

Yn naturiol mae'n beth anlwcus iawn i dorri ywen neu i losgi'r pren.

Y goeden fytholwyrdd a welir mewn mynwentydd gan amlaf yw'r ywen.

Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.

Ond peidiwch â'i goelio'n llythrennol, mwy nag y coeliech fardd yn dagreuo hiraeth am ei gariad dan yr ywen.

Hefyd, roedd yr eiddew, rosmari a'r llawryf yn cael eu defnyddio, ond nid oedd yr ywen a'r gypreswydden yn cael dod yn agos i'r tŷ ar unrhyw gyfrif yr adeg yma o'r flwyddyn oherwydd eu cysylltiad â'r Pasg a marwolaeth.

Unwaith eto gellir breuddwydio am ddarpar gymar drwy fynd i fynwent hollol ddieithr, torri ychydig o ywen a'i osod o dan y gobennydd.

O dan bentyrrau o rwbel a chwyn nid nepell o Landeilo roedd cyfrinachau anhygoel yn cuddio: twnnel ywen hynafol, gardd bwll, gardd glwysty fendigedig a gardd furiog syn cael ei gosod gan y dylunydd garddio byd enwog Penelope Hobhouse.

Mae dail yr ywen yn wenwynig ac o'u harogli gellir gweld gweledigaethau.