Index: anhysbys

Hen Benillion

anhysbys

Contributed by: David Wood

Medi gwenith yn ei egin
Yw priodi glas fachgennyn;
Wedi ei hau, ei gau, a'i gadw,
Dichon droi'n gynhaeaf garw.



Esmwyth tlodi gan y doethion,
Blin yw cyfoeth i'r ynfydion.
Mwy o boen sy ar rai yn gwario
Nag ar eraill yn llafurio.



Bu gennyf ffrind a cheiniog hefyd,
Ac i'm ffrind mi rois ei benthyg.
Pan eis i nôl fy ngheiniog adre,
Collais i fy ffrind a hithe.



Pan basio gw+r ei ddeugain oed,
Er bod fel coed yn deilio,
Fe fydd sw+n 'goriadau'r bedd
Yn peri i'w wedd newidio.



Dod dy law, on'd wyt yn coelio,
Dan fy mron, a gwylia 'mriwio;
Ti gei glywed, os gwrandewi,
Sw+n y galon fach yn torri.



Ar ryw noswaith yn fy ngwely,
Ar hyd y nos yn ffaelu cysgu,
Gan fod fy meddwl yn ddiama'
Yn cydfeddwl am fy siwrna'.

Galw am gawg a dw+r i 'mlochi,
Gan ddisgwyl hynny i'm 'sirioli,
Ond cyn rhoi deigryn ar fy ngruddiau
Ar fin y cawg mi welwn Angau.

Mynd i'r eglwys i weddïo,
Gan dybio'n siw+r na ddeuai yno,
Ond cyn im godi oddi ar fy ngliniau
Ar ben y fainc mi welwn Angau.

Mynd i siambar glòs i ymguddio,
Gan dybio'n siw+r na ddeuai yno,
Ond er cyn glosied oedd y siambar
Angau ddaeth o dan y ddaear.

Mynd i'r môr a dechrau rhwyfo,
Gan dybio'n siw+r na fedrai nofio,
Ond cyn im fynd dros lyfnion donnau
Angau oedd y capten llongau.



Nid oes rhyngof ac ef heno
Onid pridd ac arch ac amdo;
Mi fûm lawer gwaith ymhellach
Ond nid erioed â chalon drymach.

Haen o bridd a cherrig hefyd
Sydd rhyngof i a chorff f'anwylyd,
A phedair astell wedi eu hoelio, -
Pe bawn i well, mi dorrwn honno.



Mynd i'r ardd i dorri pwysi,
Pasio'r lafant, pasio'r lili,
Pasio'r pincs a'r rhosod cochion,
Torri pwysi o ddanadl poethion.



Gwynt ar fôr a haul ar fynydd,
Cerrig llwydion yn lle coedydd,
A gwylanod yn lle dynion;
Och Dduw! pa fodd na thorrai 'nghalon?



Llun y delyn, llyn y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droeau:
Dan ei fysedd, O na fuasai
Llun fy nghalon union innau!



Tebyg ydyw'r delyn dyner
I ferch wen a'i chnawd melysber;
Wrth ei theimlo mewn cyfrinach,
Fe ddaw honno'n fwynach, fwynach.



Blin yw caru yma ac acw,
Blind bod heb y blinder hwnnw;
Ond o'r blinderau, blinaf blinder,
Cur annifyr, caru'n ofer.



Paham mae'n rhaid i chwi mo'r digio
Am fod arall yn fy leicio?
Er bod gwynt yn ysgwyd brigyn,
Rhaid cael caib i godi'r gwreiddyn.



Maen' hw'n dwedyd y ffordd yma
Nad oes dim mor oer â'r eira;
Rhois ychydig yn fy mynwes,
Clwyn yr eira gwyn yn gynnes.



Mi af i'r eglwys ddydd Sul nesaf,
A than raff y gloch mi eisteddaf;
Ac mi edrycha' â chil fy llygad
Pwy sy'n edrych ar fy nghariad.



O f'anwylyd, cyfod frwynen,
Ac ymafael yn ei deupen;
Yn ei hanner tor hi'n union
Fel y torraist ti fy nghalon.



Mi ddarllenais ddod yn rhywfodd
I'r byd hwn wyth ran ymadrodd,
Ac i'r gwragedd, mawr lles iddynt,
Fynd â saith o'r wythran rhyngddynt.



Ni wn i p'run sydd orau im eto,
Ai marw o gariad merch ai peidio,
Nes y gwypwyf pwy enillodd,
Ai'r mab a'i cadd ai'r mab a'i collodd.



Difyr yw hwyaid yn nofio ar y llyn,
Eu pigau sy'n gochion a'u plu sydd yn wyn.
Rhônt ddeudro neu drithro yn fywiog a chwim.
Beth bynnag a welant, ni ddwedant hwy ddim.



Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
Weithiau i'r môr ac weithiau i'r mynydd,
A dod adref yn ddigerydd.



Pan fo seren yn rhagori,
Fe fydd pawb a'i olwg arni.
Pan ddêl unwaith gwmwl drosti,
Ni bydd mwy o sôn amdani.



Mae dwy galon yn fy mynwes,
Un yn oer a'r llall yn gynnes;
Un yn gynnes yn ei charu,
A'r llall yn oer rhag ofn ei cholli.



On'd ydyw yn beth hynod
Fod dannedd merch yn darfod?
Ond tra bo yn ei genau chwyth
Ni dderfydd byth mo'i thafod.



Bûm yn byw yn gynnil gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Trois i fyw yn afrad afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.



Melys iawn yw llais aderyn
Fore haf ar ben y brigyn;
Ond melysach cael gan Gwenno
Eiriau heddwch wedi digio.