Index: anhysbys

Nos a Bore

anhysbys

Contributed by: David Wood

Un noswaith ddrycinog
	mi euthum i rodio
Ar lannau y Fenai,
	gan ddistaw fyfyrio;
Y gwynt oedd yn uchel,
	a gwyllt oedd y wendon,
A'r môr oedd yn lluchio
	dros waliau Caernarfon.

Ond trannoeth y bore
	mi euthum i rodio
Hyd lannau y Fenai,
	tawelwch oedd yno;
Y gwynt oedd yn ddistaw,
	a'r môr oedd yn dirion,
A'r haul oedd yn t'wynnu
	ar waliau Caernarfon.