Index: Yr Hen Destament

Bel a'r Ddraig

Contributed by: K. Jongeling

BEL A'R DDRAIG

Hystoria Bel a'r Ddraig. yr hon yw yr bedwaredd bennod ar ddêc o Ddaniel yn ôl y Lladin.

A Daniel oedd yng-hyfeddach y brenin, ac yn wr urddassol ym mhlith ei holl gefeillion ef.

2. Ac yr ydoedd eulun i'r Babiloniaid a elwid Bel ar yr hwnn yr oeddid yn treulio beunydd ddeuddeng mhesur o beillied, a deugein o ddefeid, a chwe chelyrned o win,

3. A'r brenhin ai anrhydedde ef, beunydd yr aei i'w addoli: eithr Daniel a addole ei Dduw ei hun, a'r brenin a ddywedodd wrtho: pa ham nad wyt ti 'n addoli Bel?

4. Ac efe a attebodd ac a ddywedodd am nad anrhydeddaf i eulynnod gwneuthuredig â dwylaw onid y Duw byw, yr hwn a wnaeth y nef a'r ddaiar, ac sydd iddo feddiant ar bob cnawd.

5. A'r brenin a ddywedodd wrtho, onid wyt ti yn tybied mai Duw byw yw Bel? oni weli di faint y mae efe yn ei fwytta ac yn ei yfed beunydd?

6. A Daniel a ddywedodd dan chwerthin: na thwyller di ô frenin, hwn oddi mewn sydd glai, ac oddi allan yn brês, ni fwytaodd, ac nid yfodd er ioed.

7. Yna 'r brenin yn ddigllawn a alwodd ei offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt: oni ddywedwch i mi pwy sydd yn mwynhau 'r draul hon, meirw fyddwch.

8. Os gellwch chwi ddangos imi fod Bel yn bwytta y petheu hyn, marw a gaiff Daniel am iddo ddywedyd cabledd yn erbyn Bel. A Daniel a ddywedodd wrth y brenin: fel y dywedaist bydded.

9. (Offeiriaid Bel oeddynt ddêc a thrugein heb law eu gwragedd ai plant:) a'r brenin a aeth gyd â Daniel i deml Bel.

10. A'r offeiriaid hefyd a ddywedasant: wele ni a awn allan: dod ti i'r brenin y bwydydd [yn eu lle] a gosot y gwin wedi i ti ei gymmyscu, a chae 'r drws, a selia a'th fodrwy:

11. Ar boreu pan ddelech, oni bydd Bel wedi bwytta 'r cwbl, llader ni: os amgen byddet Daniel yn gelwyddog yn ein herbyn ni.

12. Canys diar swyd oeddynt, o herwydd dan y bwrdd y gwnaethent ffordd guddiedig, i'r hon yr aent i mewn bôb amser, ac y cyrchent ymmaith y petheu hynny.

13. Yna wedi iddynt fyned allan, ac i'r brenin osod y bwydydd (ger bron) Bel, y gorchymynodd Daniel i'w weision ddwyn lludw, yr hwn a danasant dros gwbl o'r deml yng-ŵydd y brenin ei hun, ac wrth fyned allan hwynt a gaeasant y porth, ac ai seliasant â modrwy y brenin, ac a aethant ymmaith.

14. A'r offeiriaid a aethant i mewn gefn y nos, yn ôl eu harfer ai gwragedd, ai plant, ac a fwyttasant, ac a yfasant y cwbl.

15. A'r boreu y brenin a gododd yn foreu iawn, a Daniel gyd ag ef..

16. A'r brenin a ofynnodd, a ydyw y selau yn gyfan Daniel? ac yntef a attebodd, y maent yn gyfan ô frenin.

17. A chyn gyflymmed ag yr agorassid y drws y brenin a edrychodd tua 'r bwrdd, ac a lefodd yn uchel: mawr wyt ti ô Bel, ac nid oes dim twyll ynot.

18. Yna Daniel a chwarddodd, ac a ddaliodd y brenin rhag myned i mewn, ac a ddywedodd gwêl y llawr, ac edrych ôl pwy [yw 'r] rhain.

19. A'r brenin a ddywedodd, mi a welaf ôl traed gwŷr a gwragedd, a phlant.

20. A llidio a wnaeth y brenin, a dala 'r offeiriaid ai gwragedd ai plant y rhai o ddangosassant iddo y drysseu cuddiedig i'r rhai yr oeddynt yn myned i mewn i fwytta 'r petheau oeddynt ar y bwrdd.

21. A'r brenin ai lladdodd hwynt, ac a roes Bel yn rhoddi i Ddaniel, yr hwn ai dinistriodd ef ai^ Deml.

22. Yr oedd hefyd ddraig fawr yno, a'r Babiloniaid ai anrhydeddent hi.

23. A'r brenin a ddywedodd wrth Ddaniel: a ddywedi di mai efydd yw honn? Wele hi yn fyw, ac yn bwytta, ac yn yfed, ni elli di ddywedyd nad yw honn Dduw byw, am hynny addola hi.

24. Wrth yr hwn y dywedodd Daniel, myfi a addolaf yr Arglwydd fy Nuw: canys efe yw 'r Duw byw.

25. Os ty di ô frenin a rydd y mi [gennad] mi a laddaf y ddraig hon heb na chleddyf na ffonn, a'r brenin a ddywedodd, mi a roddaf i ti gennad.

26. Yna y cymmerth Daniel byg, a gwêr a blew, ac ai berwodd yng-hyd, ac a wnaeth dammeidiau o honynt, ac ai rhoes yn safn y ddraig, a'r ddraig a rwygodd yn ddrylliau, ac efe a ddywedodd: wele 'r petheu yr ydych yn eu hanrhydeddu.

27. Ac fe a ddigwyddodd i'r Babiloniaid pan glywsant hynny ddirfawr lidio a throi yn erbyn y brenin gan ddywedyd, y brenin a aeth yn Iddew: Bel a ddestruwiodd efe, a'r ddraig a laddodd, ac a roes yr offeiriaid iw marwolaeth.

28. Ac wedi eu dyfot at y brenin y dywedasant: dod ini Ddaniel: onis rhoi, ni a'th laddwn di a'th holl dylwyth.

29. Pan welodd y brenin eu bôd hwynt yn rhy daer yn ei gymmell ef: yna y gorfu iddo oi anfodd roi Daniel iddynt.

30. A hwyntau ai bwriassant ef i ffau y llewod lle y bu efe chwe diwrnod.

31. Yn yr ffau y oedd saith o lewod, i'r rhai y rhoid beunydd ddau gorph a dwy ddafad y rhai y pryd hynny ni roesid, fel y gallent lyngcu Daniel.

32. Ac Abbacuc y prophwyd oedd yn Judea, yr hwn a ferwasse sew ac a friwasse fara mewn cawg, ac oedd yn myned iw ddwyn i'r maes i fedelwyr.

33. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Abbacuc, dwg y cinio sydd gennit hyd yn Babilon i Ddaniel [yr hwn sydd yn ffau] y llewod.

34. Ac Abbacuc a ddywedodd, Arglwydd ni welais i er ioed Babilon, ac ni wn i pa le y mae yr ffau.

35. Yna Angel yr Arglwydd ai cymmerth ef erbyn ei goryn, ac wedi iddo ei ddwrn erbyn gwallt ei benn, y dodes ef yn Babilon ar y ffau drwy nerth ei yspryd ef.

36. Ac Abbacuc a lefodd gan ddywedyd: Daniel, Daniel, cymmer y cinio a anfonodd Duw i ti.

37. Yna y dywedodd Daniel, ti a feddyliaist am danaf ô Dduw, ac ni adewi [mewn gwall] y rhai a ymgais â thi, ac a'th gâr.

38. Felly Daniel a gyfododd i fynu, ac a fwyttaodd, ac angel yr Arglwydd a ddodes Abbacuc yn ebrwydd yn ei le ei hun.

39. A'r brenin aeth ar y seithfed dydd i alaru, a phan ddaeth at y ffau, efe a edrychodd i mewn a wele [yr oedd] Daniel yn eistedd.

40. Yna a llefodd y brenin â llef uchel, ac a ddywedodd mawr wyt ti ô Arglwydd Dduw Daniel, ac nid oes Dduw arall ond ty di.

41. Ac efe ai tynnodd ef allan o'r ffau, ac ai bwriodd hwyntwy y rhai oedd achos oi ddifetha ef i'r ffau, ac hwy alyngcwyd yn gyflym ger ei fron ef.

Terfyn hystoria Bel a'r Draig