Index: David Thomas (Dafydd Ddu Eryri) 1759-1822

Ffarwél y Bardd

Author: David Thomas (Dafydd Ddu Eryri) 1759-1822

Contributed by: David Wood

Wel bellach mewn hoywach hwyl,
Dirionwych frodyr annwyl,
Cenwch eich gwaith mewn cynnydd,
A mwynlan, diddan fo'r dydd.

Minnau'n hen mewn anhunedd,
Yma'n byw ym min y bedd.
Gwyro mae fy moel gorun
At lawr gallt dan y gwallt gwyn.

Daw eraill feirdd awdurol
Yn fuan, fuan ar f'ôl.
Delom uwch cur, lafur loes,
I'r lân anfarwol einioes,
I gyhoeddi'n dragwyddawl
Glod lôr o fewn goror gwawl,
Trwy ffydd gre', boed lle llawen
I chwi ac i mi, Amen.