Index: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Hiraeth

Author: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Contributed by: David Wood

Harddwch yr hydref oedd ar y dail,
  A'i siffrwd yn nefni'r coed;
Ac yntau'n sefyll yn erw'r llan,
  A briw y bedd wrth ei droed.

Unig ar wyneb y ddaear oedd
  A thrist oedd ei lonnaf wen;
Ac yn ei ddagrau 'roedd serch ei oes,
  A hiraeth anaele'r hen.

Tlysni ni welai ond tlysni'r wedd
  Oedd mwyach i bawb ynghudd;
A swyn ni chlywai ond swyn y llais
  A dawsai ers llawer dydd.

Harddwch yr hydref oedd ar y dail,
  A'i siffrwd yn nho y gwynt;
A'i gartref iddo mor oer a'r bedd,
  A'r bedd fel ei gartref gynt.