Index: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Mab y Mynydd

Author: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Contributed by: David Wood

Myfi yw Mab y Mynydd
  A châr y lluwch a'r gwynt,
Etifedd hen gynefin
  Fy nhad a'm teidiau gynt;
Mae 'Mot' fy nghi a minnau
  Y Cymry gorau gaed,
Ein dau o hen wehelyth
  Ac arail yn ein gwaed.

Caed eraill fywyd segur
  A byw ym miri'r dref;
Ond gwell gan lanc o fugail
  Gael bod dan las y nef.
Ond gwell gan lanc o fugail
  Gael bod dan las y nef.

Nis gwn pa beth yw cysgu
  Ond hyd nes torro'r wawr,
A 'molchaf fel y crëyr
  Yng nghawg y ceunant mawr.
Mae gennyf fil o ddefaid
  Ar lechwedd ac ar ddôl,
A neb ond 'Mot' a minnau
  I edrych ar eu hôl.

Caed eraill wisg o sidan,
  A'u beio pwy a faidd?
Ond gwell gan lanc o fugail
  Gael diwyg fel ei braidd.
Can gwell gan lanc o fugail
  Gael diwyg fel ei braidd.

Ni fynnwn burach mwyniant
  Na charu'r w+yn a'r myllt
Neu lamu dros y marian
  Ar ôl yr hyrddod gwyllt;
A chyfwr' ddiwrnod cneifio
  I sôn am gampau'r cw+n,
Gan fyw wrth nant y mynydd
  A marw yn ei sw+n.

Caed eraill faen o fynor
  A thorch o flodau ffug,
Ond gwell gan 'Mot' a minnau
  Gael beddrod yn y grug.
Mil gwell gan 'Mot' a minnau
  Gael beddrod yn y grug.