Index: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Mai

Author: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Contributed by: David Wood

Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
  Gyda'i firi yn yr helyg,
  Gyda'i flodau fel y barrug -
Gwyn fy myd bob tro y dêl.

Eis yn fore tua'r waun
  Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar,
  Ond yr oedd y gwersyll cynnar
Wedi codi o fy mlaen.

Eistedd wnes tan brennau'r Glog,
  Ar ddyfodiad y deheuwynt;
  Edn glas ddisgynnodd arnynt
Gan barablu enw'r gog.

Ni rois gam ar lawr y wig
  Heb fod clychau'r haf o tano,
  Fel diferion o ryw lasfro
Wedi disgyn rhwng y brig.

Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
  Gyda'i firi, gyda'i flodau,
  Gyda dydd fy ngeni innau -
Gwyn fy myd bob tro y dêl.