Index: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Medi

Author: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Contributed by: David Wood

Croesaw Medi, fis fy serch,
  Mis y porffor ar y ffriddoedd;
Pan y ceni'th glychau mêl
  Casgl y gwenyn o'r dyffrynnoedd.
Os yw blodau cyntaf haf
  Wedi caead yn y dolydd,
Onid blodau eraill sydd
  Eto 'nghadw ar y mynydd?

Croesaw Medi, fis fy serch,
  Pan fo'r mwyar ar y llwyni,
Pan fo'r cnau'n melynu'r cyll,
  Pan fo'n hwyr gan ddyddiau nosi.
Tlws yw'th loergan ar y môr
  Yn ymsymud ar y tonnau;
Tlws yw'th loergan ar y maes
  Ym mhriodas yr ysgubau.

Croesaw Medi, fis fy serch,
  Clir fel grisial yw'th foreau -
Clir fel grisial er fod Duw'n
  Arogldarthu ar y bryniau.
Nid oes gwmwl ar y grug,
  Nid oes gysgod ar y rhedyn;
Pan y ceni'th glychau mêl,
  Cyrchaf finnau gyda'r gwenyn.