Index: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Ora Pro Nobis

Author: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Contributed by: David Wood

Mae'r curlaw yn dallu ffenestri fy nhy+,
A thymestlwynt Tachwedd a gyfyd ei ru;
Mae cedyrn y derlwyn yn siglo i'w gwraidd,
A brefu am loches wna ychen a phraidd.
Ein Tad, cofia'r adar nad oes iddynt gell;
Mae'r eira mor agos, a'th haf Di mor bell.

Mae'r gorlif yn ddisglair hyd wyneb y fro,
A gyr y cymylau fel gwersyll ar ffo;
Gan ergyd y ddrycin fy mwthyn a gryn;
Well aelwyd na heol ar noson fel hyn!
Ein Tad, cofia'r arab a gwsg tan y lloer;
Mae'i wisg ef mor denau, a'th wynt Di mor oer.

Mae'r ewyn yn wyn ar y mordraeth gerllaw
Cyn wynned â dalen y llyfr yn fy llaw;
A hed y gylfinir fel cri trwy y nef,
Gan ofn y rhyferthwy a'i ddicter ef.
Ein Tad, cofia'r morwr rhwng cyfnos a gwawr
Mae'i long ef mor fechan, a'th fôr Di mor fawr.