Index: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Sul y Blodau

Author: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Contributed by: David Wood

Dan y garreg las a'r blodau
Cysga berl dy fam;
Gwybod mae dy dad a minnau
Na dderbynni gam;
Gwn nad oes un beddrod bychan
Heb ei angel gwyn,
Cwsg fy mhlentyn yma'th hunan,
Cwsg, Goronwy Wyn.

Cofio 'r wy pan oeddit gartre'n
Cysgu gyda ni,
Rhwystro fynnwn blant y pentre'
Rhag dy darfu di:
Ond bodlonwn iddynt heno
Gyda'u miri iach
Pe bai obaith iddynt ddeffro
Fy Ngoronwy bach.

Cwsg, fy mhlentyn, heb dy fami,
Cwsg yn erw Duw;
Casglu blodau buom iti,
Sul y Blodau yw:
Chwe briallen fach y ddywed
Mai yr haf yw hi,
Cwsg odanynt heb eu gweled
Cwsg, fy rhosyn i.

Dan y garreg las, Goronwy,
Cysga beth yn hwy;
Rhaid yw dweud "Nos da", Goronwy,
Mynd a'th ado'r wy.
Nid oes eisiau llaw i'th siglo
Yn dy newydd grud,
Cwsg nes gweld ein gilydd eto,
Cwsg a gwyn dy fyd.