Index: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Y Sipsiwn

Author: Eliseus Williams (Eifion Wyn), 1867-1926

Contributed by: David Wood

Gwelais ei fen liw dydd
  Ar ffordd yr ucheldir iach,
A'i ferlod yn pori'r ffrith
  Yng ngofal ei epil bach;
Ac yntau yn chwilio'r nant
  Fel garan, o dro i dro,
Gan annos ei filgi brych rhwng y brwyn,
  A'i chwiban yn deffro'r fro.

Gwelais ei fen liw nos
  Ar gytir gerllaw y dref;
Ei da ar y gwlithog lawr;
  A'i aelwyd dan noethni'r nef:
Ac yntau fel pennaeth mwyn
  Ymywsg ei barablus blant,
Ei fysedd yn dawnsio hyd dannau'i grwth,
  A'i chwerthin yn llonni'r pant.

Ond heno pwy w+yr ei hynt?
  Nid oes namyn deufaen du
A dyrnaid o laswawr lwch
  Ac arogl mwg lle bu:
Nid oes ganddo ddewis fro,
  A melys i hwn yw byw -
Crwydro am oes lle y mynno ei hun,
  A marw lle mynno Duw.