Index: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Beati Mortui

Author: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Contributed by: David Wood

Mor ddwedwydd yw y rhai trwy ffydd
  Sy'n mynd o blith y byw;
Eu henwau'n perarogli sydd,
  A'u hun mor dawel yw.

Ar o eu holl flinderau dwys,
  Gorffwyso maent mewn hedd,
Ymhell o sw y byd a'i bwys,
  Heb boen yn llwch y bedd.

Llais un gorthrymydd byth ni ddaw
  I'w deffro i wylo mwy,
Na phrofedigaeth lem na chroes,
  Un loes ni theimlant hwy.