Index: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Glan Iorddonen

Author: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Contributed by: David Wood

Ar lan Iorddonen ddofn
  'R wy'n oedi'n nychlyd,
Mewn blys mynd trwy, ac ofn
  Ei stormydd enbyd;
O na bai modd i mi
Osgoi ei hymchwydd hi,
A hedfan uwch ei lli
  I'r Ganaan hyfryd!

Wrth gofio grym y dw
  A'i thonnog genlli,
A'r mynych rymus w
  A suddodd ynddi,
Mae braw ar f'enaid gwan
Mai boddi fydd fy rhan
Cyn cyrraedd tawel lan
  Bro y goleuni.

Ond pan y gwelwyf draw
  Ar fynydd Seion,
Yn iach heb boen na braw,
  Fy hen gyfeillion,
Paham yr ofnaf mwy?
Y Duw a'u daliodd hwy
A'm dyga innau drwy
  Ei dyfroedd dyfnion.