Index: Evan Evans

Llys Ifor Hael

Author: Evan Evans

Contributed by: David Wood


Llys Ifor hael, gwael yw'r gwedd, - yn garnau
           Mewn gwerni mae'n gorwedd;
    Drain ac ysgall mall a'i medd,
    Mieri lle bu mawredd.

Yno nid oes awenydd, - na beirddion,
           Na byrddau llawenydd,
    Nac aur yn ei magwyrydd,
    Na mael, na gw+r hael a'i rhydd.

I Ddafydd gelfydd ei ga+n - oer ofid
           Roi Ifor mewn graean;
    Mwy echrys fod ei lys la+n
    Yn lleoedd i'r dylluan.

Er bri arglwyddi byr glod, - eu mawredd
           A'u muriau sy'n darfod;
    Lle rhyfedd i falchedd fod
    Yw teiau ar y tywod.