Index: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Ysgoldy Rhad Llanrwst

Author: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Contributed by: David Wood

Hoff rodfa fy mabolaeth,
  Chwaraele bore 'myd,
A wnaed i mi yn annwyl,
  Drwy lawer cwlwm clyd;
Pa le mae'r si a'r dwndwr,
  Gaed rhwng dy furiau gynt,
A'r plant o'th gylch yn chwarae
  A'u hatsain yn y gwynt?

Mae anian o dy ddeutu
  Mor bruddaidd ac mor drom,
Fel un fai'n cadw gwylnos
  Uwch d'adail unig lom;
Mae'r olwg arnat heddiw,
  Gaed gynt mor deg a'r sant,
Fel gweddw dlawd amddifad,
  Yn wylo ar  ei phlant.

Mae sw y gloch yn ddistaw,
  Heb dorf yn dod o'r dre,
A bolltau'th ddorau cedyrn
  Yn rhydu yn eu lle;
Ystlum a'u mud ehediad
  Sy'n gwau eu hwyrdrwm hynt,
Lle pyncid cerddi Homer
  A Virgil geinber gynt.

Mae hirwellt bras anfaethlon
  Yn brith orchuddio gro
Y llawnt bu'r cylch a'r belen
  Yn treiglo yn eu tro;
Boed wyw y llaw a'th drawodd
  A haint mor drwm a hyn,
Boed ddiblant a'th ddiblantodd,
  A diffrwyth fel dy chwyn.

Pa le, pa fodd mae heddiw
  Y lliaws yma fu
'N cydchwarae a chyd-ddysgu,
  A chydymgomio'n gu?
Mae rhai mewn bedd yn huno,
  A'r lleill ar led y byd,
Nad oes un gloch a ddichon
  Eu galw heddiw 'nghyd.

Wyliedydd doeth a diwyd,
  Os cwrddi ar dy hynt
A rhai o'm cyd-sgolheigion
  A'm chwaraeyddion gynt,
Dod fy ngwasanaeth atynt,
  A dwed, er amled ton
Aeth drosof, na ddilwyd
  Eu cof oddi ar fy mron.