Index: Thomas David Thomas (Glan Padarn) 1848-1888

Cān y Fam i'w Phlentyn

Author: Thomas David Thomas (Glan Padarn) 1848-1888

Contributed by: David Wood

Cwsg fy anwylyd di-nam,
   Tecach na'r rhosyn wyt ti;
Huna ym mynwes dy fam,
   Tarian dy fywyd yw hi.
Gwelw yw'r nos wrth y drws,
   Lleddf ac ystormus ei chri;
O mae dy ruddiau di'n dlws,
   Cannwyll fy llygaid wyt ti.

Draw ar y don mae dy dad,
   Ymladd ā gwyntoedd yr aig.
Dychwel wna eto i'w wlad
   At ei anwylyd a'i wraig.
Gweled dy wyneb mae'n awr,
   Clywed dy lais ar y lli;
O mae'n dy garu di'n fawr,
   Cannwyll ei lygaid wyt ti.

Stormydd y gaeaf a'u gwg
   Eto ar fyrder a ffy;
Gwanwyn a'i lesni a ddwg
   Fywyd o londer i lu;
Tithau, fy mhlentyn di-nam,
   Chwerddi ar dywod y lli,
Efo'th gwch bychan a'th fam,
   Cannwyll ei llygaid wyt ti.

Rhuo mae'r gwynotedd o hyd,
   Tuchan yn ffenestr y cefn;
O 'r wyt ti'n gariad i gyd,
   Rho imi gusan drachefn,
Bellach, gorweddwn i lawr,
   Cysga, 'si lwli, si, si';
Huna, wel huna yn awr,
   O cannwyll fy llygaid wyt ti.