Index: Thomas David Thomas (Glan Padarn) 1848-1888

Y Cymro

Author: Thomas David Thomas (Glan Padarn) 1848-1888

Contributed by: David Wood

Mae gan y Cymro galon
I garu Cymru lom,
Mae'i serch fel anniffoddol fflam
Yn gylch o amgylch hon.
Os yw ymhlith estroniaid
Sy'n gwatwar iaith ei wlad,
Cynheua fflam ei serch yn fwy
At iaith ei fam a'i dad.

Mae gan y Cymro galon
I ganfod y tylawd,
A chynorthwyol fraich i'w ddwyn
O bwll annedwydd ffawd.
Mae deigryn yn ei lygaid,
Elusen yn ei law,
Pan wêl gardotes fach dylawd
Yn droednoeth yn y glaw.

Mae gan y Cymro dalent
A synnwyr yn ei ben
I wneud paradwys cyn bo hir
O'n hannwyl Walia Wen;
Ac os dyrchefir gwledydd
Gan rinwedd dysg a dawn,
Ceir gweld hen Gymru a Chymraeg
Yn uchel, uchel iawn.