Index: Hedd Wyn (Ellis Evans) (1887-1917)

Y Blotyn Du

Author: Hedd Wyn (Ellis Evans) (1887-1917)

Contributed by: David Wood

Nid oes gennym hawl ar y sêr,
   Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur a ymylch
   Yng nghanol y glesni maith.

Nid oes gennym hawl ar ddim byd
   Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno sy'n anhrefn i gyd
   Yng nghanol gogoniant Duw.