Index: Islwyn (William Thomas)

Arwain Fi

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

O arwain fi i'th nefol ffyrdd,
Yng nghanol temtasiynau fyrdd;
Yn awr y brofedigaeth ddu,
Anfeidrol Ysbryd, arwain fi.

Erchyllaf anial yw y byd,
A maglau ei bleserau i gyd;
Yn gywir i'r baradwys fry
Hyd ffordd cyfiawnder arwain fi.

Rhag twyll fy nghalon ddrwg fy hun,
Aflendid ei meddyliau blin,
Rhag grym ei chynhyrfiadau hi,
Yn llwybrau ofn arwain fi.

Mae Satan, chwant, a phechod gau,
Oll am fy arwain tua gwae;
O rhag eu hymdrechiadau hy,
Yn ffordd cyfiawnder arwain fi.

Pererin wyf, ymhell o'm gwlad,
A `ngolwg ar drigfannau Nhad;
Pererin rhwng gelynion lu,
Dad pererinion, arwain fi.

O arwain fi hyd lwybrau hedd,
Yn llawen mwyach hyd fy medd;
Trwy'r olaf brofedigaeth ddu,
Yn orfoddelus arwain fi.

Dros erchyll donnau angau at
Dan ganu, os dy gwmni gaf;
Nes cyrraedd glan y Ganan gu,
O Ior anfeidrol, arwain fi.

- William Thomas (Islwyn)

Mai, 1854