Index: Islwyn (William Thomas)

Ceisio Gloewach Nen

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees


[Dyma enw un o ganiadau ceinaf Islwyn. Ceir hi yn y Gwaith, fel 
rhan o'r "Storm," tud. 52.  Wele ddau bennill eto ohoni, y ddau 
bennill olaf, na chyhoeddwyd o'r blaen.]

Rhwng bydoedd fyrdd y nefoedd dlos,
Mawreddau i hymerodraeth fawr,
Tramwya eangderau'r nos
A chwmwl ar ei gwawr.
Ah! Nid oes ar orseddfainc hedd i'r fron,
Ac nid ar orsedd y mae bod yn llon.

Fry yn ei gwae,
Ar orsedd wen,
Hiraethu mae
Am loewach nen.

Siomedig yw. Ond nid y hi
Yn unig yn siomedig sy;
Gw+yr ereill am wywedig wedd,
Mae gobaith ereill yn y bedd.
A gwaith aml un, siomedig Loer,
Yw crwydro rhwng y beddau oer;
Ac ymgysuro ar y dywell hynt
Ym malmaidd gofion yr amseroedd gynt;
Ac wrth y galon brudd
Ymddiddan am y dydd
Y cawn eu cyfarch ar orseddfa wen,
Mewn gloewach nen.