Index: Islwyn (William Thomas)

Cofiadwy Ddydd

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees


Cofiadwy ddydd, caf dy ddwyn
O huddfa adgof addfwyn
I fyny ar fy enaid,
Adfer ei beraidd-der raid;
Anwylion yr hen helynt,
A'r cofion tegeiddion gynt.

Dwyn yr awr, a'th dyner eiriau,- yn ol,
A'th anwylion wenau;
O, beraidd waith y borau,
A lliw nos i'm llawenhau.

A galw yn ol o'r glyn eilwaith - ingion
Dy ddiangol artaith,
Anadliad dymuniad maith
A'th dremiad wrth droi ymaith.

Y law wan o liw enaid,- ei chwyfiad,
A'i huchafol amnaid;
Gwedi hir oes, ysgwyd raid
Ei llun a hedd ei llonnaid.

Dwyn i gof Eden gyfan,- dychwelyd,
O, a chwilio allan
Bob gwawrdydd bellddydd a ban
Dorrai ar fy myd eirian.

Pan ddyrch ehedgarwch adgof,
Pan y cwyd copaon cof
Goruwch y byd ac erch bau
A holl fur engur angau,
O'r mwynaf wawr am unwaith
A dyrr ar ddyfnder y daith!

Mehefin 26, 1856