Index: Islwyn (William Thomas)

Ei Weled Fel y Mae

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Ei Weled Fel Y Mae

Angylion uwch y ser,
Beth yw eich nefoedd chwi?
Pa beth yw swyn eich anthem be+r,
Beth eich ardderchog fri?
Golygfa dawel ar ei wedd,
Ah! Dyna `u nefoed, dyna `u hedd.

Ei weled fel y mae,
Gweld sylwedd nefoedd yw;
Pa beth yw siomiant, beth yw gwae,
Ond absenoldeb Duw?
Cawn nofio ar fo+r o hedd di-drai,
Fyth wrth ei weled fel y mae.

- William Thomas (Islwyn)

Gorffennaf, 1854