Index: Islwyn (William Thomas)

Glan Ebbwy Gan Islwyn

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

GLAN EBBWY.
    
[Ysgrifennodd Islwyn at J. Rosser ar "ddydd Llun y bore,"
Gorffennaf 17, 1854 fel hyn, - "Yr wyf yn myned i fyny yn
awr i Ben y Cae i ddodi marwol weddillion Glan Ebbwy yn y
bedd. I ddodi y 'pwrcas i lawr,' -mae wedi ei brynu,
'rwy'n credu. Fe'i rhyddheir 'fore prynedigaoth y corff.'
Hapus fore! Fe ryddheir llawer pwrcas y bore hwnnw."]
    
I.

Gorffwysa di! 'Rwyf finnau yn flinedig,
Ac am yr un orffwysfa yn dyheu.

II.

Camsyniaist, auaf angau, 'th dymor yma,
Haf oedd i ddod at ol fath wanwyn îr.
Ond yn y nef yr oedd dy haf di i ddechreu;
A byrr fu'r gauaf, aeth heibio ag un ystorm.
Mae'n dawel bythoedd draw. Ond O, i ni
Mor wyw, ac mor ddiflodau, yw'r olygfa
Lle taenai gwyrddni mil o riniau gynt,
Sahara lle bu Eden aml ei rhos.

III.

"Dedwydd fydd tragwyddol orffwys"
Oedd dy eiriau yn y glyn;
Heddyw, yn y deg baradwys,
Teimli y dedwyddyd hyn;
Ie, dedwydd gorffwys yno,
Mwyn ymnofio mewn mwynhad
Dedwydd gorffwys wedi blino,
Yn yr hedd-drigfannau rhad.
Gwlad uwchlaw ystormydd blinion
Yw'th breswylfa dawel mwy;
Rhued byd a'i holl awelon,
Byth ni chlywi 'u rhuad hwy.

Aeth yr awel olaf heibio,
Heibio fyth yr olaf donn,
Bythol deg yw'r tywydd yno,
Balmaidd holl aroglau hon.

Nid oes ddeigryn gennyf mwyach,
Yfodd bedd fy nagrau prudd;
Gwel, ni fedd y llygaid bellach
Wlith i ddyfrhau fy ngrudd;
Ofer gwlitho'r bedd mewn alaeth
Ni thyf blodyn ar ei fron,
Sychodd holl ffynhonnau hiraeth
Yn y galon unig hon.

Frawd! Cymeraf lwybyr newydd;
Yn lle wylo, canu wnaf,
Canu am y bore dedwydd,
Bore y tragwyddol haf
Ar y fynwent drom gymylog
Wawria o wybrennau gwell,
Gan oleuo'r beddau niwlog,
A dilennu'r wynfa bell.

Ebbwy, 'n iach! Yn iach nes torro
Gwawr yr anfachludol ddydd,
Cawn gyfarfod heb ymado,
O, cyfarfod melus fydd;
Fry mwynha, mwynha 'th ogoniant,
Mel heb wermod, bri heb wawd
Nes cael rhan o'r unrhyw fwyniant,
Ebbwy, 'n iach! Yn iach, fy mrawd!