Index: Islwyn (William Thomas)

Gwel Uwchlaw Cymylau Amser

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Gwel, Uwchlaw Cymylau Amser

Gwel, uwchlaw cymylau amser,
O fy enaid, gwel y tir;
Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir;
Hapus dyrfa,
Sydd yn nofio yn ei hedd.

Gwel a chred. Mae yna drigfan,
Oes, a chroen deg, i ti;
Golud hon ni threulir allan,
Gwel a chais ei golud hi;
A deilyngwyd
Yn yr ardd drwy iawnol chwy+s.

Ynddi tardd ffynhonnau bywyd,
Trwyddi rhed afonydd hedd
I ddyfrhau ei broydd hyfryd,
Ac i anfarwoli `i gwedd;
Iachawdwriaeth
Ar ei glan anadlir mwy.

Saethau'r bedd nid allant esgyn
I'w hagosaf dalaeth hi;
Ac ni faidd y marwol elyn
Sangu ar ei rhandir fry;
Angau yno?
Cartref anfarwoldeb yw.

Troir awelon glyn marwolaeth
Oll yn hedd tu yma i'r fan,
Try holl ocheneidiau hiraeth
Yn anthemau ar y lan;
Syrth y deigryn
Olaf i'r Iorddonen ddu.

Nid oes yno neb yn wylo,
Yno nid oes neb yn brudd,
Troir yn fe+l y wermod yno,
Yno rhoi y caeth yn rhydd;
Hapus dyrfa
Sydd a'u trigfa yno mwy.

Iachawdwriaeth ar ei hawel
Lif, a nefoedd o fwynhad;
Mae ei hanthem fyth yn uchel,
A'i thrysorau fyth yn rhad;
A'i gogoniant
Yn disgleirio fel yr haul.

Mae fy nghalon brudd yn llamu
O orfoledd dan fy mron,-
Yn y gobaith am feddiannu
`R etifeddiaeth ddwyfol hon;
Hapus dyrfa,
Sydd a'u hwyneb tua'r wlad.

- William Thomas (Islwyn)

[Nodyn gan O.M. Edwards : "Bustl" yw'r gair yn llawysgrif 
Islwyn sydd ger fy mron.  Pryd bynnag y byddai yn adolygu ac yn 
cywiro ei waith, hyd yr wyf wedi sylwi, newidiai "bustl" yn 
wermod.  Am hynny gweir y cyfnewidiad yma hefyd.]