Index: Islwyn (William Thomas)

Gwirfoddolrwydd

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

O bydded i'r egwyddor fawr a'th ddwg
Yn llawen o bellderoedd nef y nef,
Anfeidrol daith! ymhell o dy+ dy Dad,-
A'th deyrnlys hardd dy hun, a'th goron deg,
A'th orsedd a'th deyrnwialen fawr ar ol,
I geisio'r crwydriad, dyn, yn dlawd dy wedd
A bod dy hun yn grwydriad yn ein plith,
Ardderchog Alldud o balasau Duw,
Heb o dy frodyr yn dy adwaen un,
A neb yn olrhain dy anfeidrol a+ch,-

Egwyddor gref! O bydded iti sedd,
Dylanwad, ac awdurdod ar fy mron.

Fy nghalon roddaf, Geidwad mawr, i ti,
A gwirfoddolrwydd a berffeithio `r rhodd.

Yn aberth byw, -gorff, enaid, amser, oll,-
O freichiau gwirfoddolrwydd derbyn fi.

- William Thomas (Islwyn)

Gor. 12, 1854