Index: Islwyn (William Thomas)

Islwyn Anghofied Araul For Barddonieth

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Anghofied Araul For

Anghofied araul for barddoniaeth mwy
Aberu f'enaid, a'i thragwyddol donn
Arwynnu oerion greigiau siomiant sydd
Yn anialeiddio traeth bodolaeth byth;
Anghofied olwyn ganol bywyd droi
Pan ddelo'r nefol lif i lawr, o rhwng
Breuddwydwawr fanciau adgof, fyth y sydd
Yn barod i ddiflannu pan y gwna
Yr enaid mawr ond edrych tuag yno;
Ymlaesed dyfnaf linyn teimlad, fel
Rhyw gangen oer gwynfannus oddiar
Fedd newydd, newydd adfail o ddynoliaeth
Rhyw galon wedi pallu gwaedu mwy
A lledu clwyf bodolaeth; boed yr oll
fywyd sydd yn werth ei godi uwchlaw
Y bedd, a'i blannu ar uchelion cof,
Dan nos dragwyddol,- OS ANGHOFIAF DI,
FY NGWLAD, FY NGHYMRU.

- William Thomas (Islwyn)