Index: Islwyn (William Thomas)

Mae Deigryn ar y Rhosyn Hardd

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Mae Deigryn Ar Y Rhosyn Hardd

Mae deigryn ar y rhosyn hardd,
Mae'r gwlith yn wylo ar y lili;
A'r awel oeraf dery'r ardd,
A chwyth ei hanadl wywdra drwyddi;
Ac nid y bardd yn unig sydd
Yn wylo dan drallodau prudd.

Mae Natur deg yn colli ei gwrid,
A'i rhos i gyd yn marw;
Dynoethir hi o'i gwisgoedd haf,
A'i blodau gaf yn welw;
Ac O, paham na chollwn i
Aml rosyn hawddgar gyda hi?

Y mae fy mlodyn yn y bedd,
A'i wedd yn isel heno;
Ond pam yr wylaf ar ei ol?
Mae blodau'r ddo+l yn wylo;
A throir yr ardd bob gauaf blin
Yn fynwent oer i'w rhos ei hun.

Mai, 1854

- William Thomas (Islwyn)