Index: Islwyn (William Thomas)

Mae Seren Lawn

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Mae seren lawn goruwch dy fedd,
Y seren fore lon;
A gwynfa lawn o hedd
Nawf amgylch ogylch hon;
Hi gyfyd, cyfyd yn y man,
A daw y bedd, y bedd i'r lan.

Bydd dawel yna, fwynaf un;
Cwyd oddiar y bedd bob awr
Be+r arogl darth o fwynaf rin
Nes swyno `r nef yn nes i lawr;
Ac ymyl yr anfarwol ddydd
Oleua fin dy feddrod prudd.

Ym mhell o fewn dy fedd,
O fewn y gwagle oer,
Canfyddaf flaen o ddwyfol hedd
Fel penrhyn lloer;
A goleu o'r baradwys bell
Yn ffrydio dros yr uchder gwell.

Gadawyd, hwyr o haf,
Awelig uwch y fan;
Ac yno fyth y caf
Ei hadsain wan;
O fore dedwydd, pan y daw
Yr oll i'r lan,-
Y galon hon, a'r awel wan,
A'th ffurf tegeiddiaf, oll i'r lan.

- William Thomas (Islwyn)

Mehefin, 1856