Index: Islwyn (William Thomas)

Nid Hwn ond Barabas

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Nid Hwn, Ond Barabas

"Nid hwn ond Barabas!" Parha y floedd;
Holl leisiau'r oesau unant i'w pharhau.
Distawa, anghredadyn. Taw! Paham
Y beiit arall am dy fai dy hun?
Y mae'r ddaeargryn engyrth ar ei thraed,
Gad iddi hi gyhuddo'r Iddew tlawd;
Ac i'th ystafell dos, a gwrando'n sobr
Yr unrhyw floedd yn darstain drwy dy enaid,
Ac ar dy ol, trwy wagle llawer blwydd,-
"Nid Hwn, ond Barabas." "Nid Hwn, ond Chwant."

`Roedd Barabas ei hun yn well na Satan;
A llai eu pechod a'u dewisant ef
O flaen eu Ceidwad, na thydi sy'n dewis
Holl gethern Annwfn, a Satan, yn ei le.

- William Thomas (Islwyn)