Index: Islwyn (William Thomas)

O Leied a Feddyli gan Islwyn

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

O LEIED A FEDDYLI.
    
"Ac efe a ddaeth, ac a'u cafadd hwy yn cysgu drachefn
canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau." - Matth. - XXVI. 43.

O, leied a feddyli, Seion wiw,
Am awr a natur gweithrediadau 'th Dduw,
Y moddion, pwy a'u dywed? A'r eiliadau
Y seilir y tragwyddol ar eu dyfaion weithrediadau?
Eiliadau sydd yn rhoi rhyw newydd wedd
Ar ysbryd-fydoedd y tu draw i'r bedd;
O fewn y rhai mae oesoedd yn ymgronni
A mwy o Dduw i'n gwydd yn d'od, a mwy o'r pell oleuni
Nag yn holl hanes creadigaeth fawr, -
Pan roddir i'r anfeidrol ffurf, ac i'r tragwyddol wawr;
Y cymer un o'r Duw-feddyliau nerthol
Ger bron y byd y wedd o ffaith anfeidrol.

Y mae ei lwybrau Ef ym moroedd amser,
Arweinia ei feddyliau i mewn o'r dyfnder
O dan y byd, i'w cylchoedd gogoneddus
Fel ser, yn araf, distaw, gorfawreddus.
Ac nid yw neb yn sylwi.  Nid oes llygad
Yn agor tua gwawrle y dwyfol ymddanghosiad.
O leied wyddom pan fo'r byd a'i oesoedd
Yn crynnu rhwng y tragwyddolion nerthoedd.
O Amser, 'roedd cysgodion d' oesau i gyd
O fewn yr Ardd, a'u holl gasgledig lid;
Nos erfawr o euogrwydd ac o wae
O amgylch yr Anfeidrol yn ymgau.
Tynghedfen y ddynoliaeth yno gaed
Yn crynnu yn y cysgod, a dyferynau o waed
Trymach na bydoedd yn dyhidlo i lawr,
A'r dwyfol fywyd yn dyfohau eu gwawr.

Eiliadau o anfeidrol bwys! Pan roed
Dy hedd dynghedion di, O fyd,
A'th ddwyfol drefn ar droed;
Pan ddaeth y dwyfol oll o dan dy faich,
Pan syrthiaist oll, oll ar y ruddwawr fraich.

"Aroswch yma, a gwyliwch gyda mi,"
Yr oedd y byd yn huno, onid tri,
A hwythau yn trymhau.

O Geidwad mawr,
'Roedd swn maddeuant ar dy eiriau'n awr;
Ac yn eu cwsg ti wenaist arnynt hwy,
Yr oedd yr iawnol waed yn dyferynu mwy,
Ac oesoedd fyrdd o faddeu wedi cychwyn,
A'n holl ddyfodol yn dyddhau, yn agor yn ddi-derfyn.

Gorffwyswch bellach, daeth yr awr, yr awr
Sy'n gofyn Duw i gyd yn lle y tragwyddoldeb mawr.

- Chwefror 19, 1856.