Index: Islwyn (William Thomas)

Ofnadwy Riw

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Ofnadwy riw yw hwn. A rhaid i mi
Ei dringo i'r lan, neu golli'r llwybr cul;
A chyda'r llwybr y baradwys well,
A'r ddinas deg, ar uchelfeydd y nef
Sy draw'n ymgodi, a'i phalasau fyrdd
Yn cuddio eu tyrau mewn wybrennau aur?
"Nac ofna di, fy nisgybl! Bum o'th flaen
Fy hun yn teithio'r ffordd gerigog hon,
I fyny dring, i fyny i'th orffwysfa."
`Rwy'n gweld y llwybr. Hyd-ddo teithiaf mwy,
Mae olion ei gerddediad yn y byd
Yn eglur oll. Esiampl berffaith yw,
Llawn o brydferthwch. `Rwyf yn gweld
Rhagorion fyrdd mewn un cymeriad gla+n,-
Dyn, angel, Duw, oll yn yr unrhyw ddrych;
Dyn fel y bu, a'r Duwdod fel y mae.
Edrychaf yma, `r aflan, nes disgleirio
Ei ddelw o'm mewn ar wedd ddifeius mwy;
Aruchel wyrth, O pwy a'i cwblha?
Dad, cymer fi i'th law, a gwna fi oll
O newydd; egwyddorion newydd dod
Yng ngwraidd fy natur, a diwreiddia'r hen.
Ac O amlyga `th allu cre%ol mwy
I iawn adferu fy serchiadau i drefn,
Sy heddyw'n dryblith ar wasgarfa flin,
Angylaidd nerthoedd, yn afradu `u grym
Ar wasgedd, ac yn crwydro'n llwyr ddi-ddeddt
Dros anial pechod, yn ceisio ac heb gael.

Gwnei ddyn yr angel ydoedd pan agorodd
Ei lygaid gyntaf ar y wynfaa deg,
Ar wely o ros gerllaw y bywiol bren.
Yr wyf yn ddeall beth yw'r nefoedd mwy,-
Y mae'n ymffurfio ynnog gyda'th ddelw,
Y ddau yn un, a Duwdod oll yn oll.

- William Thomas (Islwyn)