Index: Islwyn (William Thomas)

Rwyf ar Ddihun

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

`Rwyf ar Ddihun

`Rwyf ar ddihun, yng nghanol gwirioneddau,
Fy hunan yn wirionedd ac yn ffaith;
`Rwyf ar ddihun, yn symud rhwng sylweddau,
Fy hun yn sylwedd o gywreiniaf waith;
Aruthrol waith! O gyfaill, mor ryfeddol
Y'm gwnaed i fod, i fyw, trwy oesoedd anifeiriol.

`Rwyf ar ddihun, yn teimlo ynnof ysbryd
Yn llawn o anfarwoldeb, dwyfol rym;
Galluog i fwynhau di-drai ddedwyddyd,
Ac O! i ddioddef gwae anfeidrol lym;
Ah, ryfedd fod! Anfeidrol yw ei allu,
Mae'n edrych ar y bythol fyd dan wenu,
Y Bythol Fyd, lle'r a ar fyrr i'w dragwyddoli.

- William Thomas (Islwyn)

[nodyn gan O.M Edwards : Gofynnodd ei gyfaill Llawdden i 
Islwyn, yn union wedi marw Ann Bowen,- "Ai breuddwyd yw 
bodolaeth?"  Ceir ateb Islwyn yn y GWAITH, tud. 827-828.  
Dyma ddau bennill ychwanegol o lawysgrif arall].