Index: Islwyn (William Thomas)

Simon o Cyrene

Author: Islwyn (William Thomas)

Contributed by: Darren Wyn Rees

Euddedig Fab yr hollalluog Dduw,-
O Simon, cymorth er, mae'r groes yn drom.

Tyrd, Simon, dwg ei groes. Yr wyf o bell
Yn clywed oesoedd yr mawrhau y weithred.

Fendigaid wr, na fuaswn yn dy le;
Fy hun dygaswn hi i bren y bryn,
Anrhaethol fraint,- dwyn rhan o falch fy Nuw.

Yr y+ch yn dringo llethrau Calfari,
Ewch! Mae yr  awr i fyny; ac ar y bryn,
Oes, fydoedd yn eich aros, oll mewn gwg.

Ah Simon! `Rwyt yn llawen dan dy faich,
Y pen ysgafnaf ydyw. Ar y llall
Mae'r ddeddf yn gorffwys yn ei barnau oll,
Y trymion farnau wnaent i Sinai gynt,
Ar eu crybwylliad, grynnu ar ei sail,
Nes crynnai Horeb ar ei fainc islaw.
Mae tynged byd yn crogi yma'n llwyr,
Ofnadwy faich. Rwy'n crynnu dros fy Nuw.

"Ar ol" y dygi di dy faich. Efe
Sydd yn y blaen, a'i wyneb ar y gwae,
Diogel, Simon, yn ei gysgod wyt.
Dos di ymlaen dan ganu. Drosto ef
Y chwydda'r dyfroedd a'r llifeiriant oll.
Dos! Ni chei di ond gwrando'r twrf o bell
Tra'n torri allan trwy lif-ddorau'r nen,
Gan ruthro i lawr dros ddisgynfeydd y ser.

-  William Thomas (Islwyn)