Index: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Ca Gwraig y Pysgotwr

Author: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Contributed by: David Wood

Gorffwys don, dylifa'n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pam y bydi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod,
Cysga dithau ar dy dywod.

Gorffwys fo, mae ar dy laston
Un yn dwyn serchiadau 'nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur:
Bydd dda wrtho, for diddarfod,
Cysga'n dawel ar dy dywod.

Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;
A pha esgus iti ffromi?
Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:
Tyrd a bad fy ngw i'r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.

Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan fo'i gw ar gefn y dyfnder,
Ond os cyffry dig dy donnau,
Pwy a ddirnad ei theimladau?
O, bydd dirion wrth fy mhriod,
Cysga'n dawel ar dy dywod.

Byddar ydwyt i fy ymbil,
Fo didostur, dwfn dy grombil
Trof at Un a all dy farchog
Pan fo'th donnau yn gynddeiriog;
Cymer Ef fy ngw i'w gysgod,
A gwna di'n dawel ar dy dywod.