Index: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Cathl i'r Eos

Author: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Contributed by: David Wood

Pan guddio nos ein daear gu
  O dan ei du adenydd
Y clywir dy delori mwyn,
  A cho y llwyn yn llonydd;
Ac os bydd pigyn dan dy fron
  Yn peri i'th galon guro,
Ni wnei, nes torro'r wawrddydd hael,
  Ond canu, a gadael iddo.

A thebyg it yw'r feinir wa
  Sydd gymar gwell na gemau:
Er cilio haul a hulio bro
  A miloedd o gymylau,
Pan dawo holl gysurwyr dydd,
  Hi lyna yn ffyddlonaf;
Yn nyfnder nos o boen a thrais
  Y dyry lais felysaf.

Er dichon fod ei chalon wan
  Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna, i flino'i hannwyl rai,
  Ei gwe a guddia'i gofid;
Ni pheidia'i cha trwy ddunos faith,
  Nes gweled gobaith golau
Yn t'wynnu, megis llygad aur,
  Trwy bur amrantau'r borau.