Index: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Cwyn Cariad

Author: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Contributed by: David Wood

F'annwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy' enaid,
Troist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid.
A oedd un llaw drwy'r dref draw i 'nharaw'n annhirion?
A oedd ymhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?
Yn wir dy wg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon,
Oni chaf hedd, af i'm bedd i orwedd yn wirion.

P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd annwyl?
Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?
P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?
Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd:
Yn iach i'th wedd, mi wela' 'medd, wan agwedd, yn agor;
Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar f' elor?

Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoywdeg,
Ac uwch y tir ysgrif hir o'r gwir ar y garreg,
Mai d'achos di, greulon gri, fu gwelwi'r fau galon,
Ai dyma'r pryd daw gynta' i gyd iaith hyfryd o'th ddwyfron?
Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'n llan, troi'r fan yn afonydd;
Rhy hwyr serch, - felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd.