Index: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Rhywun

Author: John Blackwell (Alun) 1797-1840

Contributed by: David Wood

Clywais lawer so a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad,
Ar y so gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb Rhywun.

Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni wna ceryddon undyn
Beri im beidio a charu Rhywun.

Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd,
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach oerach dwyfron Rhywun.

Er cael lygaid fel y perlau,
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon Rhywun.

Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i Rywun.

Pa le bynnag bo'm tynghedfen,
P'un ai Berriw neu Rydychen,
Am fy nghariad os bydd gofyn,
F' unig ateb i fydd - Rhywun!

Caiff yr haul fachludo'r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,
Gwisgir fi mewn amdo purwyn,
Cyn y peidiaf garu Rhywun.