Index: John Ceiriog Hughes

Addfwyn Fiwsig

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig,
Gwenferch gwynfa ydwyt ti;
Pan anedli, adfywiedig
   Awel haf ddaw atom ni.
      Gauaf du helbulon,
         Droi yn ha;
      Danat rhew y galon,
         Toddi wna, toddi wna.
Dafnau melus bro gogoniant,
Yn dy lafar di ddisgynnant;
Blodau Eden yn ddiri',
Dyfant, wenant, beraroglant,
Yn dy lais a'th wyddfod ti.
Nefol ferch ysbrydoledig,
Ti sy 'n puro 'r fron lygredig,
Ti sy 'n llonni 'r cystuddiedig.
Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig
   Gwenferch gwynfa ydwyt ti.