Llyfrgell Home Page Index: John Ceiriog Hughes

Alun Mabon

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood


(Bugeilgan Delynegol)

I.

'R oedd Alun Mabon yn ei ddydd
Yn fachgen cryf a hoyw;
Yn berchen grudd a thalcen hardd,
   A llygad gloyw, gloyw.
Er nad oedd goeth 'nôl dull y byd,
   Fe ellid dweud er hynny
Fod ganddo galon gynnes bur
   Yn natur wedi tyfu.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
   Ac fel y blodyn bychan
Oedd ar y grug wrth gefn ei dŷ,
   Blagurodd yntau allan. -
Fe gafodd hafddydd yn yr haul,
   A gauaf yn y stormydd;
Ac yna megis blodyn grug,
   Fe wywodd ar y mynydd.

II.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel yr hedydd rhyngo a'r nef
Fe ganodd lawer anthem gref,
   Lle nad oedd carreg ateb.
Ond dywed traddodiadol go,
I'r llon a'r prudd o dro i dro
Ddod ato yn ei fryniawg fro
   Fel haul a storm i'w wyneb.

Ar rai o fydrau Cymru lân,
Rhyw gais at roi arluniau mân
O fywyd Alun ydyw 'r gân
   Fugeiliol sydd yn canlyn;
Ac mae bywgraffiad byw o'r dyn,
Yn ei ganeuon ef ei hun,
A'i "Arad Goch" yw 'r gyntaf un
   Gaiff fyned efo 'r delyn.

III.

Os hoffech wybod sut
   Mae dyn fel fi yn byw,
Mi ddysgais gan fy nhad
   Grefft gyntaf dynol ryw;
Mi ddysgais wneyd y gors
   Yn weirglodd ffrwythlon ir,
I godi daear las
   Ar wyneb anial dir.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr,
            Ac yn codi efo'r wawr,
         I ddilyn yr og, ar ochr y Glog,
            A chanlyn yr arad goch
            Ar ben y mynydd mawr.

Cyn boddio ar eich byd,
   Pa grefftwyr bynnag foch,
Chwi ddylech ddod am dro
   Rhwng cyrn yr arad goch;
A pheidiwch meddwl fod
   Pob pleser a mwynhad
Yn aros byth heb ddod
   I fryniau ucha'r wlad.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Yn ôl eich clociau heirdd,
   Bob bore codwch chwi:
Y wawr neu wyneb haul
   Yw 'r cloc a'n cyfyd ni;
Y dyddiaduron sydd
   Yn nodi 'r haf i chwi;
Ond dail y coed yw 'r llyfr
   Sy 'n dod â'r haf i ni.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Nis gwn i fawr am fyw
   Mewn rhwysg a gwychder byd;
Ond diolch, gwn beth yw
   Gogoniant bwthyn clyd;
Ac eistedd hanner awr
   Tan goeden ger fy nôr,
Pan aiff yr haul i lawr,
   Mewn cwmwl tân i'r môr.
         'Rwy'n gorwedd efo 'r hwyr, &c.

Cerddorion Ewrop ddônt
   I'ch mysg i roddi cân:
'R wyf innau 'n ymfoddhau
   Ar lais y fronfraith lân;
Wrth wrando 'r gwcw las,
   A'r hedydd bychan fry,
A gweled Robyn Goch
   Yn gwrando 'r deryn du.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Ddinaswyr gwaelod gwlad,
   A gwŷr y celfau cain,
Pe welech Fai yn dod,
   A blodau ar y drain -
Y rhosyn ar y gwrych,
   A'r lili ar y llyn;
Fe hoffech chwithau fyw
   Mewn bwthyn ar y bryn.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Pan rydd yr Ionawr oer
   Ei gaenen ar yr ardd,
Y coed a dro'nt yn wyn
   Tan flodau barrug hardd;
Daw bargod dan y to
   Fel rhes o berlau pur,
A'r eira ddengys liw
   Yr eiddew ar y mur.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Daw Ebrill yn ei dro,
   A chydag ef fe ddaw
Disymwth wenau haul,
   A sydyn gawod wlaw;
Fel cyfnewidiog ferch,
   Neu ddyn o deimlad gwan,
Galara 'r awyr las,
   A gwena yn y fan.
         'Rwy'n gorwedd efo 'r hwyr,
            Ac yn codi efo 'r wawr,
         I ddilyn yr og ar ochor y Glog
            A chanlyn yr arad goch
            Ar ben y mynydd mawr.

IV.

Dowch i'r mynydd yn y bore,
   Chwi gewch weld y wawr-ddydd deg
Yn ymwrido ar y bryniau,
   Fel genethig dair-ar-ddeg.
      Diffodd lampau 'r nos,
      Goleu 'r ddaear dlos,
         Rhodio tros y bryniau mawr,
      Gosod cymyl claer
      Mewn ymylon aur,
         Dyna waith y wylaidd wawr.

Dowch i'r mynydd gyda'r hwyrddydd,
   Pan aiff haul i'w fachlud awr;
Chwi gewch weled brenin Gwynddydd
   Yn ei waed yn cwympo i lawr.
      Duo 'n ddyfnach bydd
      Mynwent laith y dydd,
         A daw nifwl ar y môr,
      Lleuad gwyd ei phen,
      Hwyrddydd rodia 'r nen
         I ail oleu lampau 'r Iôr.

V.

Mi genais gerdd i'r Arad Goch,
   A cherdd ar Ddowch i'r Mynydd:
Ond beth be bawn i eto 'n dod
   I ganu cân anghelfydd
Ar alaw annwyl "Blodau 'r Cwm,"
   Mae pawb yn gwybod honno;
A beth pe bawn yn dewis pwnc
   Y gŵyr pob dyn am dano?

O! gwyn ei fyd yr hwn nis gŵyr
   Am ferch fu 'n flinder iddo;
Ond wn i ddim yn sicr chwaith,
   Ai gwyn ei fyd, ai peidio.
Mae'n ddigon hawdd gan ambell un
   Sydd wedi cael ei ginio,
Areithio llawer wrth ryw blant
   Y gallant aros hebddo.

Fe guchia gwyneb llawer tad,
   Pan glywant gân cariadau:
Tra 'u plant eu hunain wrth eu traed
   Yn chwerthin am eu pennau;
Ni welais i 'run deryn bach
   Yn hoff o fyw yn unig;
Ac ni fu oen yn hoff o'i fam
   Nad oedd yn hoff o oenig.

Ac ni fu dyn yn hoff o ddyn
   Na mam yn hoff o'i phlentyn,
Nad ydoedd serch at ferch neu fab
   Yn gyntaf wedi ennyn.
Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,
   A'i enaid fel yn huno,
Nes daw rhyw lygad fel yr haul
   I wenu cariad arno.

Aeddfedodd dyn erioed yn iawn
   Ar gangen fawr dynoliaeth,
Os bydd ei wedd heb wrido 'n goch,
   Yng ngwydd ei anwyl eneth.
Ond nid athromaeth dâl i feirdd, -
   Barddoniaeth ydyw 'r testyn:
Am hynny tyred, Menna Rhên,
   Fy awen a fy nhelyn.

VI.

Pan welais gyntaf Menna Rhên
   Yn myned tua 'r mynydd,
Yr oedd plentynrwydd tyner llon
   Yn dirion ar ei dwyrudd;
Ac efo 'i brawd y byddai beunydd,
Yn adsain miwsig hyd y meusydd;
'R oedd ganddi lais, a chanddi ddeall
I ganu a charoli'n ddiwall,
Ond nid oedd dim yn Menna Rhên -
   Ddim mwy na rhywun arall.

Mi welais eilwaith Menna Rhen
   Yn myned tua 'r mynydd;
A byth er hynny, coeliwch fi,
   Bu 'n boenau imi beunydd.
Yr oedd y dôn a genid ganddi
Fel yn aros gyda myfi;
Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion,
A nosweithiau mewn breuddwydion,
Nes credais fod cân Menna lân
   Yn ngwaelod isa 'nghalon.

Mi welais wedyn Menna Rhên
   I'r mynydd hwnnw 'n myned,
Ac mi ddilynais ôl ei throed
   Bob cam a fedrwn weled;
Ond hi o'r diwedd oddiweddais,
Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedais
Farddoniaeth dlysach mewn un munud
Na dim a genais yn fy mywyd,
Wrth roddi cangen fedwen ferth
   Yn nwylaw fy anwylyd.

VII.

Tra 'n cysgu 'r nos ddilynol
   Canfyddais trwy fy hun,
Y gangen fedwen honno 'n bleth
   Am wddf fy annwyl fun;
Y dail a ddeuent arni,
   Yn wyrdd a llawn bywhad;
A gwelwn hi 'n blodeuo 'n hardd,
   Ac yna 'n hadu had.
Ond wrth fwynhau fy mreuddwyd
   O freuddwyd heb ei ail!
Canfyddwn locust melyn ddu
   Ymysg y bedw ddail;
Ymlusgodd ac ymrwyfodd
   Nes cyffwrdd gwddf y ferch,
Ac yna breuddwyd mwy nid oedd,
   Ond hunllef hagr erch.

Diolchais am gael deffro
   Pan ddaeth yn doriad dydd;
Ond cofiais ddechreu'r breuddwyd hwn
   Yn fwy na 'i ddiwedd prudd. -
Meddyliais am y blodau
   Oedd ar y brigau cain,
Yn fwy nag am y locust erch
   Lochesid yn y rhain.
Fy nghalon losgai ynnof
   Wrth gofio llygad Men;
Ac adeiladais lawer llys
   A chastell yn y nen;
Ond maluriasant ymaith,
   Cyn dechreu mynd yn hen,
Oherwydd cangen gollen ddaeth
   Oddiwrth fy Menna Rhên.

VIII.

Mae gan bawb ei brofedigaeth,
   Paid a siarad gwirion,
Ond myfi gadd siomedigaeth
   Paid a thorri 'th galon;
Rhyfedd iawn os na wnaf farw,
   Siwr, siwr iawn,
Siomedigaeth chwerw arw;
      Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
      A fyddai marw er ei mwyn.

Rown i'n meddwl ei bod hi'n ddidwyll,
   Paid a meddwl gwirion, -
Peidiwch chwithau bod yn fyrbwyll;
   Dyna fel mae dynion.
Dynion sydd a'r synwyr cryfa,
   Siwr, siwr iawn,
Ond gwrthodwyd fi gan Menna;
      Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
      A fyddai marw er ei mwyn.

Rhoddais iddi gangen fedwen,
   Beth ddywedodd Menna?
Gyrrodd imi gangen gollen,
   Wel, hi wnaeth yn eitha'.
Ond parhaf o hyd i'w hoffi,
   Siwr, siwr iawn,
Pe b'ai 'n gyrru amdo imi;
      Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
      A fyddai marw er ei mwyn.

IX.

'R oedd gennyf fi gyfaill pur annwyl a hoff,
   Yn fy nghyfarfod bob amser â gwên;
Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoi
   Fy neheulaw i Menna Rhên.
Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod,
   Siaradodd â'r llances ei hun -
Efe oedd y locust ddisgynnodd ar ddail
   Y fedwen a welais trwy f' hun.

Mae llawer ffordd i lofruddio dyn
   Yn y byd llofruddiog hwn;
Os cwrddwch â lleidr yng ngwyll y nos,
   Bydd angau ar ffroen ei wn;
Fe gymer eich arian ar ôl eich lladd,
   I'w logell losgedig ei hun,
Ac yna fe 'ch tafl i ffos y clawdd, -
   Dyna ffordd lleidr i fwrdro dyn.

Mae arall o falais yn dod gyda gwên,
   I ro'i i ddyn ddiod yn hael,
Mae yntau 'n cymeryd, ond bychan y gŵyr
   Mai cwpan o wenwyn mae 'n gael;
Mae un yn ymdrengu, a'r llall yn boddhau
   Rhyw deimlad sydd ynddo fe 'i hun -
Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan 'i ben,
   Dyna ffordd llofrudd i fwrdro dyn.

Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi,
   Fel cyfaill diffuant bob pryd,
Ac rywfodd i'ch mynwes yn gynnes yr â,
   Nes cael eich cyfrinach i gyd. -
Ac yna mae 'n myned i sibrwd ei serch
   I galon un garech eich hun -
Yn ennill y llances garasech erioed;
   Dyna ffordd cythraul i fwrdro dyn.

X.

Ond chaiff y gangen fedwen
   Ddim gwywo 'n goch ei lliw
Nes af i siarad eto
   Yng ngwyneb Menna wiw.
      Fa la, &c.

Mae gennyf dy fy hunan,
   Heb ddegwm, rhent, na threth;
A phan eisteddaf ynddo,
   'Rwy'n frenin ar bob peth.
      Fa la, &c.

Mae gennyf barlwr bychan,
   Ac aelwyd fechan lân;
A'm tegell i fy hunan
   Sy 'n canu wrth y tân.
      Fa la, &c.

Mae gennyf gant o ddefaid
   Yn pori ar y bryn,
A gallaf godi 'm cyfrwy
   Ar gefn fy ngheffyl gwyn.
      Fa la, &c.

Mae gennyf ferlyn mynydd,
   I fynd i weled Men;
Nad all neb ond fy hunan
   Roi rheffyn yn ei ben.
      Fa la, &c.

Mae 'r ardd, a'r cae, a'r ffriddoedd,
   A'r tŷ yn eiddo im';
Ond heb fy Menna anwyl
   'Rwyf fel pe bawn heb ddim.
      Fa la, &c.

Fe 'i ceisiaf unwaith eto,
   Ac os gwrthodir fi,
Tros fil o weithiau wedyn
   Am Fenna ceisiaf fi.
      Fa la, &c.

XI.

Gwelais bren yn dechreu glasu
   Ei ganghennau yn yr ardd
Ac yn dwedyd wrth yr adar, -
   "Wele daeth y Gwanwyn hardd."
Daeth aderyn bychan heibio,
   Ac fe safodd ar ei frig;
Ac fe ganodd gyda deilen
   Newydd irlas yn ei big.

Daeth aderyn bychan arall
   Ar las gangen yn y coed,
Fe ysgydwodd blu ei aden
   Ac fe ddawnsiodd ar ei droed;
Canodd yntau, a dewisodd
   Fan lle carai wneyd ei nyth,
O! mae 'r Gwanwyn fel yn cadw
   Natur hen yn ieuanc byth.

Eis o dan fy nghoeden fedwen
   Ac mi godais fry fy mhen,
Ac mi welais ol y gyllell,
   Lle torasid cangen Men.
Gwnaeth adgofion i'm ofidio
   Na buasai 'r gainc yn wyw;
Ond canfyddais gangen ieuanc
   Yn y toriad hwnnw 'n byw.

O mae gobaith mewn gwrthodiad,
   Meddwyf innau wrth fy hun;
Er fy nhorri gallaf dyfu
   Eto yn serchiadau 'r fun.
Troes fy wyneb tuag adref,
   Teflais lawer tremiad ffol
Tros fy ysgwydd at y fedwen
   Lâs adewais ar fy ôl.

XII.

Wrth ddychwel tuag adref,
   Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi 'r moroedd
   I'r ynys fechan hon.

A chwcw gynta'r tymor
   A ganai yn y coed,
'R un fath â'r gwcw gyntaf
   A ganodd gynta' 'rioed.

Mi droes yn ôl i chwilio
   Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
   Ple 'r oedd y deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelais
   O dan fy medw bren;
Ac yno 'r oedd y gwcw,
   Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,
   Ein bod ni yma 'n cwrdd -
Mi sychais i fy llygad,
   A'r gwcw aeth i ffwrdd.

XIII.

Ar ôl i'r gog fy ngadaw, efo 'r pren,
Dechreuais ganu 'r alaw Mentra Gwen;
   Cyfodi wnes yn union,
   A theimlais fwy na digon
O ganu ar fy nghalon, Mentra Men,
Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men.

Os gyrraist imi gollen, Menna Wen,
Fe yrraf eto fedwen Menna Wen,
   Pe b'ai holl fedw Cymru
   Tan farn yn gwywo 'fory,
Mi ddaliwn innau i ganu, Mentra Men,
Nes byddent yn aildyfu, Menna Wen.

Os gwelaist ddail yn syrthio, ar y pren,
A blodau 'r haf yn gwywo, Menna Wen.
   Perogli wedi marw
   Wna 'r dail sydd ar y bedw,
Gan ddal y tywydd garw, Menna Wen,
Pren cariad ydyw hwnnw, Menna Wen.

XIV.

Wrth feddwl am y gangen gyll
   Ddanfonodd Menna imi;
Draw 'n y pellder clywwn swn
   Hen glychau Aberdyfi -
      "Menna eto fydd dy fun,
      Gâd y pruddglwyf iddo 'i hun,
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
         Meddai clychau Aberdyfi.
   "Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
         Meddai clychau Aberdyfi.

Hawdd gan glychau ganu 'n llon,
   Tra na bo dim i'w poeni:
Hawdd yw cael gweniadau merch,
   Ond mil mwy hawdd en colli.
      "Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bai etifedd i ŵr mawr
   Yfory 'n cael ei eni;
I ganu cainc dechreuech chwi,
   Hen glychau Aberdyfi.
      "Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad,
   Yfory 'n mynd i'w priodi,
I ganu cainc dechreuech chwi,
   Hen glychau Aberdyfi,
      "Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bawn i fory 'n mynd i'r bedd,
   A'm calon wedi torri;
I ganu cainc dechreuech chwi,
   Hen glychau Aberdyfi.
      "Menna eto fydd dy fun,
      Gad y pruddglwyf iddo 'i hun,
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
         Meddai clychau Aberdyfi.
   "Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn"
      Meddai clychau Aberdyfi.

XV.

'R wyf wedi canu llawer
   O gerddi Cymru lân,
Ond dyma 'r darn prydferthaf
   Sydd gennyf yn fy nghân;
Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,
   At Menna Rhen daeth brys,
Nes aeth yn Menna Mabon
   A modrwy am ei bys.

Yn mhen rhyw flwyddyn arall,
   A dyma ddernyn cain;
Pan oedd y gôg yn canu
   A'r blodau ar y drain,
Yr wyn ar ben y mynydd
   Yn chwarae naid a llam,
Fe wenai Mabon bychan
   Ar freichiau gwyn ei fam.

XVI.

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys
   Trafferthion a helbul y byd,
Fy nheulu gynyddodd, a daeth
   Gofynion am 'chwaneg o yd;
Ychwaneg o fwyd i'r rhai bach,
   Ychwaneg o lafur a thraul;
Er hynny yn nghwmni fy Men,
   Yr oedd imi gysur i'w gael.

Un gweryl a gawsom erioed,
   A chweryl dra chwerw oedd hon;
Fe yrrwyd fy hunan a'm gwraig,
   Ar ty'n bendramwnwgl bron. -
Yr oedd hi 'n bur hoff o roi tro
   I weled ei mam tros y bryn;
Ac wrth imi ddwedyd gair croes,
   Dechreuodd areithio fel hyn:-

"Cymeryd fy hel a fy nhrin,
   Fy maeddu heb ddarfod na phen:
Cymeryd pob tafod a rhenc,
   Fel pe bawn yn ddernyn o bren!
Ai dioddef fel carreg a raid,
   Heb deimlad - na llygad - na chlyw!
O! na wnaf, os gwelwch chwi 'n dda,
   Wnaf fi ddim er undyn byw!

"A chymer di fi ar fy ngair,
   Fe 'i cedwais erioed hyd yn hyn;
Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed,
   Bydd dy ben yn eitha gwyn. -
Cymeryd diflasdod a chas,
   A galw fy modryb yn 'sgriw.' -
O! na wnaf, os gwelwch chwi 'n dda,
   Wnaf fi ddim er undyn byw!

"Ni flasa i fynd allan o'r tŷ,
   I weled fy chwaer na fy mam,
Nad codi 'r gloch fawr byddi di,
   Heb reswm, nag achos, na pham. -
Wna i mono fo, Alun, er neb,
   Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw;
O! na wnaf os gwelwch chwi 'n dda,
   Wnaf fi ddim er undyn byw!

"'Does gen' ti 'r un galon o'th fewn,
   A phwyll yn dy goryn ni 'roed;
A gwae fi o'r diwrnod a'r awr [yn crio.]
   Y gwelais dy wyneb erioed!
Mi âf tros y bryn at fy nhad,
   I'm hatal 'does undyn a wiw;
Ac aros yn hwy efo 'th di -
   Wnaf fi ddim - wnaf fi ddim!
   Wnaf fi ddim er undyn byw!"

[Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am nas gwn i pa hyd. Ond tra yr oedd hi efo 'i mam a'i theulu, a minnau yn fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac fel hyn y cenais, -]

XVII.

Mae 'r lloer yn codi tros yr aig
   Ac ogof Craig Eryri;
Ond beth yw cartref heb fy ngwraig,
   Ond ogof ddioleuní?
Y mae pob munud megis awr,
   Ac awr, O! Menna, 'n flwyddyn.
Pe bawn i heno 'n dderyn to,
   Caet heno weled Alun.

O na bai cadair Morgan Mud,
   Neu un o'r hen freindlysau,
Yn mynd a fi, fy ngeneth wen,
   Tros ben y coed a'r caeau.
Mi rown fy ngwefus wrth dy glust,
   A gwnawn i ti freuddwydio;
Nes codet trwy dy gwsg i ddod,
   Yn ôl at Alun eto.

Ond i fy nghadair wellt yr af,
   A cheisiaf huno, Menna;
Ac mewn breuddwydion cyn bo hir
   Mi ddeuaf innau yna.
Yn awr 'rwy 'n cau fy amrant swrth
   Wrth gychwyn i dy wyddfod;
Breuddwydia dithau, felly hed,
   A thyred i'm cyfarfod.

XVIII.

Mi dreuliais wythnos gyfan,
   A Menna bach i ffwrdd;
A'r tŷ yn llanast tryblith,
   A'r llestri hyd y bwrdd.
'R oedd gennyf was a hogyn
   Yn cynhauafa mawn:
Ac eisiau pobi bara
   A daeth yn fuan iawn.

'R oedd godro un o'r gwartheg
   Yn gasach na phob peth,
Oherwydd Menna 'n unig
   Gai gydied yn ei theth.
A throi yn hesp wnaeth pedair
   O'r gwartheg mwyaf blith;
A llaeth y lleill a surodd,
   A'r byd a drodd o chwith.

Ac am y gegin, druan,
   'R oedd hi heb drefn na llun:
Y plant ddechreuent grïo,
   A chrïais innau f' hun.
Mi flinais ar fy einioes,
   Aeth bywyd imi 'n bwn:
A gyrrais efo 'r hogyn
   I Menna 'r llythyr hwn:-

XIX.

Mi geisiaf eto ganu cân,
I'th gael di 'n ôl, fy ngeneth lân,
I'r gadair siglo ger y tân,
   Ar fynydd Aberdyfi;
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a'th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw 'i fam,
   A'i galon bron a thorri;
Mae 'r ddau oen llawaeth yn y llwyn,
A'r plant yn chwarae efo 'r wyn;
O tyrd yn ôl, fy ngeneth fwyn,
   I fynydd Aberdyfi.

Nosweithiau hirion mwliog du
Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu:
O! agor eto ddrws y tŷ,
   Ar fynydd Aberdyfi.
O! na chaet glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach cyn cysgu 'r nos,
A'i ruddiau bychain fel y rhos,
   Yn wylo am ei fami;
Gormesaist lawer arnaf, Men,
Gormesais innau - dyna ben:
O tyrd yn ôl, fy ngeneth wen,
   I fynydd Aberdyfi.

Fel hyn y ceisiaf ganu cân
I'th gael di 'n ôl, fy ngeneth lân,
I eistedd eto ger y tân,
   Ar fynydd Aberdyfi;
'Rwy 'n cofio'th lais yn canu 'n iach -
Ond 'fedri di, na neb o'th ach,
Ddiystyrru gweddi plentyn bach
   Sydd eisiau gweld ei fami.
Rhyw chwarae plant oedd d'weud ffarwèl,
Cyd-faddeu wnawn, a dyna 'r fel,
Tyrd dithau 'n ôl, fy ngeneth ddel,
   I fynydd Aberdyfi.

XX.

Fe ddaeth yr hogyn adref,
   A rhoddodd sicrhad,
Fod Menna 'n mynd 'i aros
   Yn nhŷ ei mam a'i thad.
Os oeddem wedi priodi,
   Yn bendant dwedai hi
Nad oedd dim modd cymodi
   A dyn o'm tymer i.

Fod i'r holl fechgyn fyned
   I'w magu ganddi hi:
Ac i'r genethod ddyfod
   O dan fy ngofal i.
'R oedd hi yn ymwahanu,
   Ac felly 'n canu 'n iach;
Ond hoffai roddi cusan
   Ar wefus Enid fach.

A thrannoeth hi ddychwelodd
   I ddwyn y rhwyg i ben:
Ond O! fe dorrodd dagrau
   O eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael
   Am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan,
   Fe 'n hailgymododd ni.

XXI.

Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
   Yn ateb diben da;
Pe na bai oerni 'r gauaf
   Ni theimlem wres yr ha;
Pe na bai ymrafaelio,
   Ni byddai 'r byd ddim nes,
Yn wir mae tipyn ffraeo
   'N gwneud llawer iawn o les.

XXII.

Awel groes ar fy oes godai 'n gryf wedyn,
Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn:
Rhoddai mhlant ddwylaw'n mhleth, o gylch fy ngwely,
Minnau 'n fud welwn fyd arall yn nesu.
Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod,
A daeth ofn, afon ddofn, ddu i'm cyfarfod;
Ond 'roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.

O! os bu ias y bedd, allan o'r briddell,
Hi a fu ennyd fer yn fy hen babell;
Yn fy nhraed teimlais waed, dyn wedi huno,
Ond fe drodd angau draw wedi fy nharo.
Fel y graig safai 'm gwraig anwyl yn ëon,
Ac i'r nef, gweddi gref yrrodd o'i chalon:
Rhoi ei grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min, ddarfu fy Menna.

XXIII.

      Ar ôl fy hir gystudd,
      'Rwy 'n cofio 'r boreuddydd
Y'm cariwyd mewn cader dros riniog fy nôr:
      Ac ar fy ngwyn dalcen
      Disgynnodd yr heulwen,
Ac awel o'r mynydd ac awel o'r môr.
      Ar ôl imi nychu
      Yn gaeth ar fy ngwely
Am fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen;
      Fy nghalon lawenodd
      Wrth weld ar y weirglodd
Y gaseg a'r ebol, y ddafad a'r oen.

      Trwy wenlas ffurfafen
      Fe wenai yr heulwen,
Ac mi a'i gwynebais, ac yfais y gwynt;
      A'r adar a ddeuent
      I'm hymyl, a chanent,
Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt.
      Fy ngeneth ieuengaf
      Ac Arthur ddaeth ataf,
A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw;
      A daeth fy nghi gwirion,
      Gan ysgwyd ei gynffon,
A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw.

XXIV.

   Ond O! mae llawer blynedd,
   Er pan o'wn gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau 'r haul;
   'Rôl gadael gwely gwaeledd.
   A llawer tywydd garw
   Sydd er yr amser hwnnw,
Mae 'm plant yn wragedd ac yn wŷr,
   A Menna wedi marw.

   Claddasom fachgen bychan,
   Ac yna faban gwiwlan,
Ond chododd Menna byth mo'i phen
   'Rol ini gladdu 'r baban.
   'Rwy 'n cofio 'r Sul y Blodau
   Yr aeth i weld eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
   Mai mynd i'r bedd 'roedd hithau.

   Penliniodd dan yr ywen,
   A phlannodd aur-fanadlen,
Mieri Mair, a chanri 'r coed,
   A brig o droed y glomen.
   Y blodau gwyllt a dyfent
   Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gywo 'r oedd y rhosyn coch
   Ar foch y fam a'i gwylient.

   Ac er pan gladdwyd Menna,
   Un fynwent yw 'r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mys
   Yw 'r unig drysor fedda.
   Y fodrwy hon a gadwaf,
   Y fodrwy hon a garaf,
A dyma destun olaf cerdd,
   Gwreichionen awen, olaf.

XXV.

Mae Menna 'n y fynwent yn isel ei phen,
A thi ydyw 'r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd rwy 'm cofio dy roi,
Ac wrth imi gofio, mae ni calon yn troi -
Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw,
'Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:
Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy 'r adduned yn oer ac yn fud.

Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen,
'R oedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwen,
Y clychau yn canu, a'r byd fel yn ffôl, -
Ond cnul oedd yn canu pan ges i di 'n ôl.
Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi;
O! fodrwy 'r adduned, nes gwywo 'r llaw hon,
Fe'th gadwaf di 'n loyw, fe'th gadwaf di'n gron.

XXVI.

Aros mae 'r mynyddau mawr,
   Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda 'r wawr,
   Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa 'r llygad dydd,
   O gylch traed y graig a'r bryn;
Ond bugeiliaid newydd sydd
   Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,
   Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenhedlaeth wedi mynd,
   A chenhedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymestlog hir,
   Alun Mabon mwy nid yw;
Ond mae 'r heniaith yn y tir,
   A'r alawon hen yn fyw.