Index: John Ceiriog Hughes

Breuddwyd y Bardd

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae seibiant yn y dôn ar ddiwedd y chweched llinell, a'r llinell olaf yn llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.


ALAW, - Breuddwyd y Bardd.

Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
   Yn wargrwm a'i wallt fel y gwlan;
A'i feddwl a hedodd i'r amser
   Y gwelid ei blant wrth y tân.
Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd
   Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd -
Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.

Fe welodd ei hun yn priodi,
   Genethig anwylaf y wlad;
Fe glywodd ei gyntaf anedig
   Gan wenu 'n ei alw fe 'n "dad!"
Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu,
   Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd -
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
   Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
   Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt,
   Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd -
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

Er na bu un linell mewn argraff
   O waith y breuddwydiwr erioed;
Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
   A dynion yn rhodio fel coed,
A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen,
   Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd -
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.