Index: John Ceiriog Hughes

Bugail yr Hafod

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - Hobed o Hilion.

   Pan oeddwn i'n fugail yn Hafod y Rhyd,
   A'r defaid yn dyfod i'r gwair a'r iraidd yd;
   Tan goeden gysgodol mor ddedwydd 'own i,
   Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;
      Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,
      Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion
Yn mwynhau y maesydd a'r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.

   Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
   Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;
   Tra 'm chwaer efo 'i hosan a mam efo carth,
   Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lān y barth,
      Deued a ddeuo, anian dynn yno,
      Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth
I'r hen dy, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.

   Mae'r wennol yn crwydro o'i hannedd ddilyth,
   Ond dychwel wna'r wennol yn ol i'w hanwyl nyth;
   A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,
   Gan gofio 'r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
      Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
      Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio
Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.