Index: John Ceiriog Hughes

Bugeilio 'r Gwenith Gwyn

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Price

ALAW, - Bugeilio 'r gwenith gwyn.

Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
   A'i phen gan flodau 'n dryfrith,
I gadw 'r adar bach ffwrdd
   Rhag disgyn ar y gwenith.
Rho'i ganiatad i'r deryn to,
   A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
   A dyna deimlad plentyn.

Pan welot tithau eneth wan,
   Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di,
   Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
   Gogwydda glust i'w gweddi;
Yr oedd yr haul, a'r gwlith, a'r gwlaw,
   Yn meddwl am roi iddi.

Os wyt am fedi gwenith gwyn,
   Gofala beth a heui;
A wyt ti'n hau y dyddiau hyn
   Yr hyn ddymunet fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
   A'r heulwen yn haelionus;
Wel dos i hau ar dir y tlawd,
   A chofia'th frawd anghenus.